Fe adawodd yr ysgol heb yr un TGAU, ond bellach mae ganddi radd meistr mewn Actio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
A’r actores o’r Rhondda sy’n chwarae’r brif ran mewn drama newydd o’r enw Bwmp sydd ar lwyfannau Hansh heddiw.
Dyma’i rôl gyntaf ar S4C a bwriad y gyfres yw taflu goleuni positif ar ryw o bersbectif dynes anabl…
Sut wnaethoch chi gychwyn actio?
Dechreuais actio pan oeddwn i’n 25 oed felly saith mlynedd yn ôl, ond doedd o ddim y llwybr arferol. Pan oeddwn i’n tyfu lan doeddwn i byth yn cael bod yn y sioe Nadolig nag unrhyw beth yn yr ysgol achos apparently ro’n i’n “rhy dwp” i ddysgu’r geiriau. Wnes i adael yr ysgol heb TGAU ond fi wedi mynd o hynna i radd meistr mewn actio.
Wnes i ddechrau trwy wirfoddoli gyda chwmni theatr Taking Flight a fi wedi gweithio gyda nhw trwy fy ngyrfa. Ac wedyn dwy flynedd yn ôl yn ystod y pandemig, wnes i astudio am radd meistr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama. Fi oedd y trydydd person anabl yn hanes y coleg i wneud y cwrs Actio a’r ferch gyntaf yn fy nheulu i fynd i’r brifysgol.
Roedden ni’n clywed bod seleb Cymraeg wedi talu eich ffioedd i astudio yno?
Pan wnes i ffeindio mas faint oedd o’n costio i fynd i’r brifysgol, wnes i ddweud: ‘Fi ddim eisiau mynd mewn i ddyled, felly galla i ddim gwneud o.’ Ro’n i’n deall ei fod yn brifysgol dda iawn a’i fod yn galed i gael lle ond doeddwn i jest ddim eisiau’r risg ariannol. Wnes i adael i’’r brifysgol wybod a wnaethon nhw ddweud i adael o efo nhw. Wnaethon nhw wedyn cysylltu gyda phobol ac roedd rhaid i fi sgrifennu llythyr i rywun yn egluro fy hanes yn gadael yr ysgol heb TGAU… a Catherine Zeta-Jones wnaeth dalu fy ffioedd.
Un Nadolig wnes i benderfynu sgrifennu iddi yn diolch ac yn dweud sut oedd y cwrs yn mynd, ond dydw i heb ei chyfarfod. Byddwn i erioed wedi edrych ar yr ysgol heb fod hynny’n bosib oherwydd dw i’n dod o Rondda Cynon Taf ac roedd y coleg yn posh a phopeth.
Sut brofiad oedd astudio yn y Coleg Cerdd a Drama?
Roedd e’n ffab ond yn galed oherwydd roedd e yn ystod y pandemig a ro’n i wedi colli dau aelod o fy nheulu yn ystod y cyfnod yna. Ond fi ddim yn meddwl y byddwn i wedi gallu mynd trwy’r pandemig heb y cwrs oherwydd roedden ni’n cael parhau i fynd mewn pum diwrnod yr wythnos. Ro’n i’n caru’r hyfforddiant, y canu a dysgu’r holl sgiliau newydd a gwahanol.
Roedd e’n ychydig o culture shock. Fi’n cofio’r dydd cyntaf wnaeth pawb troi rownd yn y dosbarth a gofyn: ‘Wyt ti’n local Welshie?’ a ges i sioc o ddysgu mai fi oedd yr unig berson Cymraeg ar y cwrs. Felly ar gyfer y Nadolig wnes i bobi tua 200 o gacenni cri a’u rhannu nhw gyda fy nosbarth a staff y gegin ac yn y blaen.
Pam oeddech chi eisiau bod yn actores?
Tyfais lan heb weld pobol anabl ar y teledu.
Doeddwn i ddim yn teimlo fy mod i’n cael fy nghynrychioli yn y cyfryngau. Os byddai popeth yn y byd yn cael ei ddinistrio mewn 300 mlynedd a byddai pobol angen creu cymdeithas eto a’r unig wybodaeth sydd ganddyn nhw ydy’r wybodaeth o’r cyfryngau, bydde ti ddim yn meddwl bod pobol gydag anableddau yn bodoli. Ni ddim yn dysgu am hanes pobol anabl.
Pan o’n i’n 25 oed ro’n i’n eistedd yn fy nhŷ rhyw ddydd a sylweddolais fod neb am wybod pwy o’n i a neb am fy narganfod fel actores, a neb newydd gydag anabledd am ymddangos ar y teledu os nad oeddwn i’n gwneud rhywbeth. Roeddwn i wedi laru ar deimlo ar ben fy hunan. Felly wnaeth rhwystredigaeth fy annog. Ro’n i’n meddwl: ‘Os dydw i ddim am wneud o, does gen i ddim hawl eistedd yma a chwyno nad oes pobol fel fi ar y teledu’.
Beth yw’r stori yn eich sioe gyntaf i S4C?
Mae Bwmp am ferch ifanc gydag anabledd sy’n fashion content creator dan hyfforddiant ac mae hi jest yn trio byw ac edrych ar ôl ei bywyd cymdeithasol a’i gyrfa. Mae hi’n gymeriad diddorol a ti’n gallu gwneud y deinameg yn ei pherthnasau hi gyda’i ffrindiau, ei chariad, ei chyd-weithwyr ac yn y blaen.
Fi’n gyffrous ond yn nerfus hefyd oherwydd am y tro cyntaf ar y teledu efallai, bydd pobol yn gweld rhywun anabl yn mynd mas gyda rhywun sydd ddim yn anabl, [yn gweld] rhywun anabl yn gweithio a’u bywyd cymdeithasol nhw, rhywun anabl yn cael rhyw… shocker, mae o’n digwydd! Ond fi wedi gwneud be fi’n gallu gwneud nawr a fi jest yn gobeithio bod yna gynulleidfa mas yna sydd eisiau gweld e. Os ddim, hei, fi dal wedi gwneud e! Pa bynnag ffordd mae e’n mynd, fi’n hapus.
Pa mor bwysig ydy hi fod pobol gydag anableddau yn cael eu gweld mewn rhaglenni sy’n bositif am ryw?
Mae e’n rili pwysig! Doedd e ddim yn amser hir yn ôl pan oedd pobol anabl yn cael eu rhoi mewn seilam, yn cael eu hysbaddu yn orfodol ac mewn beddau torfol. Felly fi ddim wedi fy nychryn fod y stigma yn parhau i fodoli rownd pobol fel fi a fy nghymuned sy’n gwneud i bobol feddwl nad ydym ni’n cael rhyw, ddim gyda phersonoliaethau a ddim gyda rhywioldeb.
Pan oeddwn i’n ifanc ac roedd pobol eisiau mynd mas gyda fi ac roeddwn i’n gwrthod, roedd e mor sarhaus iddyn nhw fod rhywun anabl wedi gwrthod. Roedd e fel eu bod nhw’n disgwyl i fi fod heb standards a dweud: ‘Diolch am weld fi’ neu ‘diolch am siarad gyda fi’. Felly mae e mor bwysig bod pobol yn cael gweld rhywun anabl yn cael y profiadau yma o fywyd ar y teledu.
Beth yw eich atgofion cynharaf?
Mae rhai o’r atgofion cryfaf o fy mhlentyndod o Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain. Dechreuais i fynd yno pan o’n i’n tua dwy oed a ro’n i’n mynd yno tan o’n i’n tua 11 oed. Dyna ble ro’n i’n cael fy apwyntiadau a llawdriniaethau. Mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud yna yn anhygoel.
Beth yw eich ofn mwya’?
Uchder!
Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?
Mae’n mynd i swnio’n rhyfedd ond pan fi i’n rhedeg bath, dw i’n gwneud squats tra dw i’n disgwyl. Dw i ddim yn gwybod pam na phryd wnes i ddechrau gwneud e.
Fi ddim rili mewn i chwaraeon nag unrhyw beth ond dw i’n hoffi dawnsio felly wna i roi Afrobeats ymlaen a chael dawns fach iddo ar ben fy hunan.
Beth sy’n eich gwylltio?
Dw i’n casáu anghyfiawnder. Os ydw i’n gweld e o fy nghwmpas, mae’n rhaid i fi wneud rhywbeth.
Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?
Byddwn i’n cael bwffe Tsieineaidd ac mae’n rhaid iddo fo fod yn fwffe achos fi’n hoffi nibbly bits. Fi’n credu byddwn i’n gwahodd Julie Andrews oherwydd wnes i dyfu lan yn gwylio The Princess Diaries, Mary Poppins a phethau fel yna. Fi’n credu y byddai hi’n chilled, ddim yn swil gyda’r bwyd a ddim yn stuck up.
Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?
Fy nghariad, Kyle. Rydyn ni wedi bod gydag ein gilydd ers yr oedden ni’n 14 a 15 oed. Ni’n gyntaf ein gilydd ac olaf ein gilydd.
Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?
Go with the flow.
Hoff wisg ffansi?
Y cymeriad cartŵn, Jessica Rabbit. Pan ro’n i’n ifanc ro’n i bob tro eisiau bod yn zombie neu’n wrach, ond nawr fi jest eisiau gwisgo ffrog neis.
Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?
Pan o’n i’n tua 13 oed, ro’n i’n arfer mynd i’r gym felly ro’n i ar y treadmill a ro’n i angen gollwng gwynt. Roedd yna fiwsig uchel ymlaen felly doeddwn i ddim yn poeni. Wnes i adael e mas gyda rhywun ar fy chwith, rhywun ar fy dde, a rhywun ar feic y tu ôl i mi. Wnes i glywed e ac wedyn clicio fy mod i’n gwisgo clustffonau! Doedd pawb methu clywed y miwsig yma, dim ond fi!
Gwyliau gorau?
Roedd gen i pen pal yn Awstralia sef aelod o fy nheulu sy’n byw mas yna, a phan ro’n i’n 14, es i mas i Awstralia i gwrdd â fy nheulu. Mae’n wyliau sy’n sefyll mas oherwydd dydi o ddim yn wyliau lle ti jest yn ymlacio, ond ges i gwrdd â fy nheulu ro’n i wedi bod yn siarad gyda trwy’r llythyrau ers blynyddoedd.
Pan ro’n i’n graddio o’r Coleg Brenhinol, daeth un ohonyn nhw draw i wylio fy seremoni graddio.
Hoff ddiod feddwol?
Fi ddim yn yfed llawer ond pan fi yn, dw i un ai yn cael champagne gyda sudd oren neu Coctêl Jenna, sef shot o wisgi, shot o ddiod egni a shot o WKD. Mae’n grêt!
Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?
Wrth dyfu fyny, fy hoff lyfrau oedd rhai Roald Dahl. Ond yn fwy diweddar, y gyfres Psy/Chalenging gan Nalini Singh sydd am bobol sy’n troi rhwng bod yn bobol arferol a bod yn llewpardiaid.
Hoff albwm?
Fi’n gwrando ar bob math o gerddoriaeth felly dw i methu dewis. Dw i’n mynd o soul i hip-hop, i RnB i’r divas a jazz.
Rhannwch gyfrinach efo ni…
Dw i’n gallu chwarae’r PlayStation gyda fy nhraed.