Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei beirniadu am beidio â gosod targedau wrth geisio mynd i’r afael â’r broblem…

Does gan Lywodraeth Cymru “ddim cynllun” i daclo tlodi plant yn ôl y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd.

Daw hyn er gwaethaf y ffaith mai plant sydd fwyaf tebygol o ddioddef gyda 28% yn byw mewn tlodi cymharol ar hyn o bryd.