Mae ymgyrchwyr iaith yn pwyso am sicrwydd bod gan bob plentyn yng Nghymru fynediad at addysg Gymraeg…
Mae pryderon nad oes digon o addysg Gymraeg yn cael ei gynnig i blant Cymru.
Yn ôl ymchwil gan Gymdeithas yr Iaith, 0.05% yw’r twf blynyddol mewn addysg cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i blant saith oed.
Ar y gyfradd yma, buasai’n cymryd 1,560 o flynyddoedd i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr sydd wedi ei osod gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2050.