Mae criw yn y gogledd yn creu crochenwaith sy’n gwerthu mewn munudau…

Daeth pobol yn unswydd yr holl ffordd o Gaeredin a Llundain i brynu crochenwaith ym Mhorthmadog eleni.

Bob blwyddyn, mae Glosters yn cynnal sêl sampl, ac fel plant yn eu harddegau tu allan i gyngerdd Harrry Styles, roedd ambell gwsmer yn ciwio tu allan i’r siop am hanner awr wedi chwech y bore er mwyn cael bod y cyntaf i’r felin.