Portread o Rithvik Andugula
Mae dysgu sut i siarad Cymraeg er mwyn actio mewn sioe gerdd newydd “hanesyddol” wedi cryfhau perthynas rapiwr o Gaerdydd â Chymru.
Roedd Rithvik Andugula yn byw yn India tan oedd yn bump oed, ac ef sy’n actio rhan Matholwch, brenin Iwerddon, yng nghynhyrchiad cwmni theatr y Frân Wen a Chanolfan y Mileniwm o Branwen: Dadeni sydd ymlaen yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberyswyth ar y foment.
A gyda’i rôl ddiweddaraf mae’r actor 24 oed yn gobeithio ysbrydoli eraill.
“Mae caniatáu i bobol weld rhywun fel fi ar y llwyfan, yn siarad Cymraeg, yn gwneud y sioe gerdd yma, yn rhoi’r syniad i blant fel fi: ‘Os ydy e’n gwneud e, pam na fedra i ddysgu’r iaith, pam na fedra i dderbyn fy hunaniaeth fel Cymro?’” meddai Rithvik, wnaeth raddio o’r London Academy of Music & Dramatic Art y llynedd.
Symudodd ei deulu o Lundain i Aberystwyth pan oedd Rithvik tua naw oed, yna treuliodd ei arddegau yng Nghaerdydd. Wrth dyfu fyny, doedd y Gymraeg ddim yn teimlo fel rhywbeth oedd ar gael iddo, meddai. Ond newidiodd hynny ac mae Rithvik wedi trwytho’i hun yn yr iaith.
“Fe wnes i [astudio Cymraeg] ar gyfer TGAU, ond roedd e’n wahanol iawn i’r hyn dw i’n ei wneud nawr – dw i’n dysgu’r iaith nawr fel rhan o bwy ydw i,” eglura.
“Dw i wedi byw mewn dipyn o lefydd dw i’n ystyried yn rhan o fy hunaniaeth, a dw i’n meddwl bod gwneud Branwen wedi cryfhau’r berthynas yna oedd gen i â Chymru.
“Mae e wedi bod yn lot o hwyl ac yn eithriadol o heriol, ond mae’n teimlo fel braint eu bod nhw wedi rhoi cyfle i fi a dw i’n gobeithio fedra i eu talu nhw’n ôl.”
Bu gwrando ar y radio yn Gymraeg, ar gerddoriaeth Gymraeg ac ar sgyrsiau yn yr iaith yn help mawr i Rithvik wrth ddechrau dysgu, ac unwaith roedd yn gyfforddus â sŵn yr iaith, daeth yn haws iddo ddysgu’r geiriau ar gyfer ei ran yn y sioe gerdd.
“Dw i’n gwneud lot o farddoniaeth a cherddoriaeth rap, ac mae yna lot o gerddoriaeth yn yr iaith Gymraeg… felly [ar y dechrau wrth baratoi ar gyfer y sioe] fyswn i’n dysgu fy llinellau’n seiliedig ar y sain yn hytrach na’r geiriau.
“Roeddwn i’n trio dysgu lle mae synau penodol yn eistedd yn fy nghorff, a thrio mynd o fan yno.”
Cyn llwyfannu’r sioe bu Rithvik, Gethin Evans y cyfarwyddwr, a Seiriol Davies y cyfansoddwr ac un o’r sgrifennwyr, yn trafod beth maen nhw eisiau ei gyflawni gyda Branwen: Dadeni.
“Ryden ni eisiau i bobol ddeall bod rhaid i Gymru esblygu er mwyn helpu’r Gymraeg, a sicrhau nad ydy pobol fel fi – wynebau newydd Cymru – yn cael eu cadw draw rhag yr iaith,” meddai.
“Roeddwn i wastad yn teimlo fel ‘pam fyswn i’n dysgu Cymraeg?’ Wrth ddod mewn i’r sioe, roedd y bobol yma’n dweud wrtha i am draddodiadau Cymru, ac am chwedlau anhygoel fel chwedl Branwen. Roeddwn i’n teimlo’r fath genedlaetholdeb drwy’r stori, a theimlo fel fy mod i wir eisiau dysgu’r iaith achos dw i yn Gymro.
“Dyna oedd un o’r prif resymau pam wnes i gymryd y rôl, trio helpu’r genhedlaeth ar ôl fi. Gobeithio fod gwneud y sioe gerdd yma’n agor gymaint o ddrysau i bobol sy’n edrych fel fi, ac yn rhoi cyfle iddyn nhw dderbyn yr iaith fel rhan o’u hunaniaeth nhw a’i dysgu hi, ac adeiladu’r Gymru newydd yma.
“Mae beth maen nhw’n ei wneud efo’r sioe gerdd yma’n eithriadol o hanesyddol, dw i’n meddwl, a gobeithio ei fod yn agor y drws i gymaint mwy o sioeau cerdd ethnig Cymraeg.
“Dw i’n falch o fod yn rhan mor fawr o hanes yn cael ei greu.”
Ac mae’r ffaith fod Branwen: Dadeni yn Aberystwyth ar hyn o bryd yn teimlo’n hynod arbennig i Rithvik gan mai yno y gwnaeth ei sioe gerdd gyntaf. Un o’i ddylanwadau mawr ym myd y sioe gerdd ydy Colm Wilkinson, tenor ac actor o Iwerddon ac un o’r rhai cyntaf i chwarae rhan Jean Valjean yn Les Misérables.
Tu hwnt i fyd y theatr, mae Rithvik yn rapiwr a rhai o’i brif ddylanwadau yn y maes hwnnw ydy’r Americanwr Kendrick Lamar a rapiwr ac actor o Lundain sydd o gefndir Pacistanaidd.
“Mae Riz Ahmed yn ymgyrchydd anhygoel dros gyfiawnder cymdeithasol, ac mae hynny’n rhywbeth dw i’n chwilio amdano yn fy ngherddoriaeth hefyd – lle fedra i helpu pobol.
“Os ydy fy nghelf yn helpu pobol yna dw i eisiau bod yn rhan o brosiectau sy’n ymladd dros rywbeth.”
Cafodd Rithvik ei eni yn nhalaith Andhra Pradesh yn ne India, a threuliodd ei flynyddoedd cynnar yno dan ddylanwad cerddoriaeth Bollywood a Tollywood, sef traddodiad ffilm a cherddoriaeth yr iaith Telugu, yr iaith a siaredir yn y rhan honno o’r wlad.
Hip-hop ydy pethau Rithvik yn bennaf, ond mae’n creu amrywiaeth o gerddoriaeth, gan gynnwys cerddoriaeth soul, R&B, a dawns. Treuliodd ddeufis yn Efrog Newydd dros yr haf, ac mae newydd ryddhau cân newydd, ‘Soul on Fire’, sy’n “llythyr cariad” at ei amser yno.
“Mae fy ngherddoriaeth fel ryw fath o ddyddiadur. Mae’r caneuon fel llythyrau i fi’n hun allu edrych yn ôl arnyn nhw a chofio lle’r oeddwn i,” eglura Rithvik, sydd hefyd yn canu am ei wreiddiau.
“Mae yna fwy o bobol de Asiaidd yn dechrau dod mewn i’r celfyddydau nawr, ond mae lot o fy ngherddoriaeth yn seiliedig ar yr hunaniaeth yna.
“Gan fy mod i wedi tyfu lan mewn cymaint o wahanol lefydd, dw i’n gwybod bod nifer o bobol yn mynd drwy’r identity crisis yna a dw i’n meddwl bod y [gerddoriaeth] yn rhoi gofod i’r bobol hynny a’u helpu nhw i wybod fod yna rywun arall yn teimlo’r un fath â nhw…
“Dw i eisiau i bobol deimlo fel eu bod nhw adre wrth wrando ar fy ngherddoriaeth.”
Mae ffasiwn yn ddiddordeb mawr arall i Rithvik, ac mae dillad a steil, ynghyd â choginio i ddegau o bobol mewn partïon, yn llwyfan arall iddo ddangos ei greadigrwydd.
“Dw i wrth fy modd yn gweld sut fedra i ddod â fy niwylliant mewn i ffasiwn,” meddai, cyn ychwanegu ei fod yn gwneud cyri cyw iâr, biryani a sbageti bolognese da.
“Mae’r llefydd dw i wedi byw wedi creu pwy ydw i. Mae yna gymaint o bobol wedi symud o India yma i’r Deyrnas Unedig – boed i Lundain neu Gymru – ac mae trio cyfuno’r tri lle yn rhywbeth mae gen i ddiddordeb ynddo, boed drwy ffasiwn neu gerddoriaeth.”