Cadw cofnod o ffordd o fyw gwledig sy’n raddol newid yw bwriad ffotograffydd o Ddyffryn Ardudwy, ardal wledig sydd rhyw bum milltir o Harlech ar arfordir Gwynedd.

Mari Wyn Lloyd ydy’r bedwaredd genhedlaeth o’i theulu i fyw yn Hendre Waelod yng Nghwm Nantcol, lle mae ei rhieni’n ffermio.

Bro ei mebyd sy’n cael y sylw pennaf yn ei lluniau, a dyhead i ddogfennu hynt a helynt bywyd amaethyddol ar fferm deuluol.