Mae Elin Wyn Owen wedi cael ei phlesio gan yr amrywiaeth ar ail albwm y rocars o’r Gorllewin…

Aeth pedair blynedd heibio ers i Los Blancos ryddhau eu halbwm gyntaf, Sbwriel Gwyn, a oedd yn gasgliad o ganeuon gwych megis ‘Cadw Fi Lan, ‘Clarach’ a ‘Datgysylltu’.

Hir yw pob ymaros, a hyfryd i’w cael dweud bod ail albwm y band roc o Gaerfyrddin wedi glanio fis yma.