Fe allech chi aros yn hir yng nghwmni’r lliaws bortreadau sydd i’w gweld ar furiau oriel yn Llanrwst…

Mae yna ymdeimlad grymus yn perthyn i waith newydd yr artist Carl Melegari sydd i’w gweld yn Oriel Ffin y Parc yn Llanrwst ar hyn o bryd – sef cyfres o bortreadau o lowyr.

O’u gweld gyda’i gilydd, mae’r darluniau du a gwyn o ddynion dienw yn deyrnged i ‘arwr glew’r erwau glo’, i’r gŵyr a fu’n gweithio o dan amgylchiadau heriol iawn drwy gydol eu bywydau.