Mae criw yn y gogledd yn creu crochenwaith sy’n gwerthu mewn munudau…
Daeth pobol yn unswydd yr holl ffordd o Gaeredin a Llundain i brynu crochenwaith ym Mhorthmadog eleni.
Bob blwyddyn, mae Glosters yn cynnal sêl sampl, ac fel plant yn eu harddegau tu allan i gyngerdd Harrry Styles, roedd ambell gwsmer yn ciwio tu allan i’r siop am hanner awr wedi chwech y bore er mwyn cael bod y cyntaf i’r felin.
Mae poblogrwydd y sêl yn “boncyrs”, meddai Myfanwy Gloster, sy’n rhedeg y cwmni gyda’i gŵr, Tom, gan egluro mai eu presenoldeb ar-lein sydd wedi helpu’r busnes i dyfu.
Fe wnaeth y galw am gynnrych y cwmni, sy’n gwneud tua 1,500 o ddarnau’r wythnos yn eu gweithdy ar Stad Ddiwydiannol Penamser, gynyddu’n syfrdanol dros Covid.
Cyn y cyfnodau clo, roedd Tom a dau grochenydd arall rhan amser wrthi’n creu mygiau, powlenni a photeli llefrith lliwgar. Erbyn hyn, mae 11 o bobol yn cael eu cyflogi gan Glosters, ac mae eu casgliadau tymhorol yn gwerthu allan mewn chwinciad.
Myfanwy, sy’n dod yn wreiddiol o Benygroes yn Nyffryn Nantlle, sy’n gyfrifol am werthiannau a gweithgarwch y cwmni ar y We, ac mae hi’n tybio fod cwsmeriaid yn teimlo eu bod nhw’n rhan o stori’r busnes ac felly’n awyddus i gefnogi.
“Rydyn ni’n jocian ein bod ni wedi dechrau cult!” meddai Myfanwy, gan chwerthin.
“Yn ystod Covid, pan oedd rhywun yn prynu mwg ac yn ei rannu fo ar eu Instagram nhw, roedd yna tua deg o’u ffrindiau nhw’n dilyn ni.
“Dw i’n meddwl mai dyna sydd wedi’i dyfu fo, ond mae o’n neis eu bod nhw gyd mor invested a’u bod nhw mor obsessed, yn y bôn, efo gweld sut mae’r busnes yn mynd a helpu i dyfu’r busnes.”
Roedd y criwiau o Lundain a’r Alban wedi gyrru draw i Borthmadog ddiwrnod cyn y sêl, yn galw draw a mynd syth am adre, eglura Myfanwy.
“Mae o’n lyfli, ond boncyrs.
“Dw i’n meddwl na’r stori sy’n denu pobol. Oes, mae yna grochenwyr lle bynnag maen nhw’n byw. Ond mae’r bobol yma wedi bod yn dilyn y busnes dros y tair, pedair blynedd ddiwethaf ac maen nhw’n teimlo’n eithaf invested ynddy fo a’r stori.
“Maen nhw yno pan rydyn ni’n ennill ac mae yna rywbeth grêt yn digwydd, ac maen nhw yno pan mae pethau’n mynd o’i le.
“Maen nhw’n rhan fawr ohono fo. Dw i’n meddwl bod ni’n gyrru diweddariadau allan, maen nhw’n dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol, maen nhw’n cael e-byst am beth sy’n mynd ymlaen yn y gweithdy – dw i’n meddwl bod nhw gymaint rhan ohono fel bod teithio mor bell ddim yn teimlo fel big deal.”
Codi £71,000 mewn 24 awr
Ar ôl astudio gradd mewn Ffasiwn a Thecstilau yn Lerpwl, daeth Myfanwy yn ôl i’r ardal a chyfarfod Tom, sy’n dod o Gricieth. Roedd gan y ddau weithdai ym Mharc Glynllifon ger Caernarfon am gyfnod – Tom â’i grochenwaith a Myfanwy’n gwneud gwaith â thecstilau.
Wrth chwilio am dŷ, daethon nhw o hyd i adeilad efo caffi ar y gwaelod ger yr Harbwr ym Mhorthmadog, a phenderfynu agor siop grefftau a chaffi yno, a byw fyny grisiau. Agorodd Pethau Melys yn 2011, gyda gweithdy crochenwaith Tom yn yr ardd a Myfanwy’n gweithio ar y tecstilau yn yr atig.
Ychydig flynyddoedd wedyn, fe wnaethon nhw benderfynu canolbwyntio ar y crochenwaith, cau’r caffi ac agor siop Glosters ynghanol tref Porthmadog. Mae’r siop dal ar agor, ac maen nhw bellach wedi ymestyn i ddwy uned ar y stad ddiwydiannol, diolch i help cwsmeriaid a dilynwyr wnaeth gyfrannu at yr achos ar y We.
“Pan wnaethon ni godi arian ym mis Mai, roedden ni’n trio cael £50,000 [drwy crowdfunding] i ehangu i’r uned newydd yma a phrynu odyn newydd, ac fe wnaeth o hitio £71,000 o fewn 24 awr,” meddai Myfanwy.
“Mae o’n insane i feddwl bod yna gymaint o bobol eisiau gweld rhywbeth yn tyfu, a’u bod nhw eisiau bod yn rhan o hwnna.
“Mae o’n rhyfedd, ac mae’n rhyfedd pan ti’n gweld pethau rydyn ni’n eu gweld bob dydd ac wedi bod yn eu gwneud bob dydd, ti’n postio nhw allan, ac mae pobol yn tagio chdi mewn lluniau o’u tŷ nhw.”
Creu rhywbeth o ddim
Mae’r tîm yn creu casgliadau newydd bob tua thri neu bedwar mis. Roedd eu casgliad hydref yn cynnwys mygiau siâp pwmpen, mygiau gydag ystlumod arnyn nhw, llusernau pwmpen o bob maint a lliw, a chanhwyllau Calan Gaeaf.
“Dw i’n meddwl na beth sy’n gyrru ni ydy be ydy’r dyluniad nesaf, be fyddan ni’n dod fyny efo,” eglura Myfanwy, gan ddweud mai Tom sy’n bennaf gyfrifol am y dyluniadau ond ei bod hi’n pasio’r syniadau iddo.
“Gan fy mod i’n gofalu am y gwerthiannau dw i’n ryw fath o wybod be mae pobol yn licio, a be sy’n mynd i werthu.
“Pan mae hi’n dod at ddylunio’r pethau newydd, dw i’n awgrymu syniadau i Tom gan fy mod i’n gwybod beth mae pobol yn ei licio.
“Y mygiau ydy be rydyn ni’n gwneud fwyaf, mae ein casgliadau tymhorol ni’n gwerthu allan yn eithaf sydyn.
“Roedd y casgliad hydref yn boncyrs, roedden ni wedi bod yn gweithio arno fo am tua phum mis ac fe wnaeth o werthu allan mewn tua ugain munud!
“Dw i’n bersonol jyst yn gwneud pethau fyswn i’n eu cael yn fy nhŷ i!
“Dw i ddim yn licio lot o wyn, rydyn ni’n mynd am bethau lliwgar. Fe wnaeth y dyluniad signature yna efo’r drip, sef mygiau a’u topiau nhw’n oleuach na’u gwaelod, ddechrau efo’r mwg ‘Coast’, wedyn mae o wedi mynd o fan yna i liwiau eraill.”
Caiff cynnyrch Glosters ei werthu mewn 72 o siopau ar hyd gwledydd Prydain, nifer ohonyn nhw’n siopau bach yn yr Alban, ac un siop yn Dubai. Mae’r cwmni newydd gael eu harcheb gyntaf gan Gerddi Kew yn Llundain hefyd.
“Maen nhw newydd gael palet llawn o fygiau… mae o’n rhyfedd, pan wnaethon nhw archebu gyntaf fe wnaethon nhw ofyn am ‘archeb fach’ – ond doedd hi ddim yn fach i ni!”
Cyfleoedd creadigol
Un o’r pethau pwysicaf i Myfanwy a Tom wrth benderfynu ehangu’r busnes ym mro eu mebyd oedd sicrhau cyfleoedd gwaith yn y diwydiant creadigol. Gyda’r busnes yn dal i dyfu, mae’n braf cael gweld y staff yn mynd yn eu blaenau i brynu tai neu gael plant, meddai Myfanwy.
“Mae o’n neis bod y buddsoddiad yna – wrth dyfu’r busnes, mae pawb yn tyfu’u bywydau yn rhan ohono fo.
“Cyn prynu’r siop, pan oedden ni efo’r caffi, roedden ni’n gwbod ein bod ni ddim eisiau gwneud y caffi ddim mwy. Ond roedden ni’n meddwl a oedden ni am ddechrau tyfu ein busnes yn fan yma ta symud i ffwrdd a thrio’i wneud o yn rhywle arall.
“Doedd yna ddim swyddi creadigol yn fan yma i ni eu dewis – dyna pam wnaethon ni gychwyn gwneud pethau ein hunain.
“Mae o wedi bod yn bwysig i ni fel busnes ein bod ni’n gallu tyfu’r swyddi creadigol yn lleol, ac mae o’n neis bod y tîm i gyd wedi bod yn coleg a gwneud Celf a Dylunio neu wedi bod i ffwrdd yn y brifysgol a gwneud Crochenwaith ac wedi dod yn ôl.
“Yn y gorffennol, fysa yna ddim byd iddyn nhw. Ond mae yna rŵan.”