Mae gan gyflwynwraig a chantores o Fôn ei bys mewn sawl potes creadigol.

Catrin Angharad wnaeth sefydlu criw codi canu Côr-ona ar Facebook yn ystod Covid, gan roi’r cyfle i bobol ar hyd a lled y wlad rannu eu doniau cerddorol a llwyddo i gynnig cysur i sawl un.

Mae’r gyn-athrawes o Gaerwen ar Ynys Môn bellach yn gweithio’n llawrydd, yn cydlynu nifer o brosiectau cerddorol ac yn gyflwynwraig ar Radio Cymru.