Mae rhai o selogion y sîn ac ambell wyneb newydd wedi bod wrthi’n rhyddhau cerddoriaeth newydd eleni.

Wrth i 2023 ddirwyn i ben, gohebwyr a golygyddion Golwg a golwg360 sydd wedi bod yn ystyried eu hoff albyms.

Bethan Lloyd – Golygydd Lingo Newydd a Lingo360

Roedd Uwch Dros y Pysgod gan Dafydd Owain – a’r fideo hynod o ddifyr sy’n cyd-fynd â’r gân o’r un enw – wedi fy nghyfareddu. Dyma albym sy’n swyno, sy’n greadigol ac yn llawn nostaljia.

Os am ddarllen cyfweliad efo Dafydd Owain am sut aeth ati i greu’r fideo ac adolygiad o’r albym, mae Pawlie Bryant, dysgwr Cymraeg o Galiffornia a cholofnydd Lingo360, wedi ysgrifennu dwy erthygl benigamp yma

Barry Thomas – Golygydd Golwg

Pan mae’r rhan fwyaf o gyplau yn cael plant, maen nhw yn diflannu oddi ar wynab y ddaear a chael eu caethiwo i’r felin fagu oesol ag ydy newid napis, bwydo, bronfwydo, diffyg cwsg, ac yn y blaen.

Nid felly Rogue Jones.

Fe lwyddodd Bethan ag Ynyr i gychwyn teulu A chynnal band, ac fe enillon nhw’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni gyda’u halbwm Dos Bebés.

Afraid dweud bod yna lwyth o ganeuon gwych ar hon, ond yr un wnaeth hitio fy sbot yw ‘Y Tad, Y Mab a’r Ysbryd Glân’.

Mae’r feib ar hon yn atgoffa dyn o ganeuon gwych a moel Lou Reed ar ei albwm seminal, Transformer.

Ac mae geiriau ‘Y Tad, Y Mab…’ yn wych wrth i Ynyr ganu:

Sa i ishe bod yn iron man,

a wna i ddim rhedeg, nofio, seiclo,

wna i ddim symud cam o’r fan…

Does dim mesur lled na hyd

Yr hud a lledrith fydd yn dod i fewn dy fyd

Pan ti’n gadael fynd

O’r pethe sydd fod i wneud ti’n ddyn.’ 

Clywch clywch! Claddwch yr hen docsic masculinity yna!

Does dim angen cwblhau ras iron man – neu ‘glorified traws-gwlad’ fel mae Ynyr yn ei alw! – er mwyn bod yn ddyn.

Rogue Jones

Albym hollol wych arall eleni oedd Uwch Dros y Pysgod gan Dafydd Owain. Uchafbwyntiau’r casgliad – y trac sy’n deitl i’r albwm, ‘Penbyliaid’ ac ‘Annwyl Emyr’. Yn syml, caneuon i suo’r galon a lleddfu’r enaid.

A sôn am suo, mae ‘Pupur a Halen’ yn gân fendigedig gan Hap a Damwain, y breuder yn llais Aled y canwr ar hon yn hyfryd o hiraethus. Un o oreuon 2023.

Ac i’r rheiny sy’n mwynhau ryw hen riff dew goman ar y gitâr, a rhywbeth swmpus a secsi yn dod allan o’r sbîcyrs wrth olchi’r potiau cinio Dolig, chewch chi ddim byd gwell na ‘Creithiau’ gan Ffatri Jam. Cân roc ora’r flwyddyn. 

Alun Rhys Chivers – Golygydd golwg360

Mae Noson Arall Mewn gan Pwdin Reis yn dal y glust o’r nodyn cyntaf un, gyda phob trac yn ddieithriad yn fywiog ac yn codi’r galon – er bod naws ychydig yn fwy hamddenol a churiadau arafach i ‘Styc a Sownd i’r Ffôn’ a ‘Dadlau Digidol’. Dyw Rockabilly ddim yn genre y byddai rhywun yn meddwl amdani’n syth wrth feddwl am gerddoriaeth Gymraeg – er bod cymuned ddigon cryf o ddilynwyr yng Nghymru, yn ôl y sôn – ond mae’r band yma’n llwyddo i’w gwneud hi’r peth mwya’ naturiol yn y byd.

Neil Rosser sydd wedi cyfansoddi’r caneuon i gyd ond am un (Gâd i’r Drwms Ware gan Sandy Nelson a Richard Polodor). Ond mae’n rhaid aros tan y bedwaredd gân, ‘Hei Mr Blaidd’ cyn i ni glywed ei lais.

Dyma albwm sy’n eich tywys chi i fyd neuaddau dawns y 1950au, ond sydd ar yr un pryd yn symud cerddoriaeth Gymraeg i gyfeiriad gwahanol. Ac allwn i ddim sôn am yr albwm yma heb grybwyll disgyblion Unedau Sir Gâr sy’n ymddangos ar un o’r ddwy fersiwn o’r trac ‘Jac Tŷ Isha’ ar yr albwm. Nhw, i fi, sy’n crisialu’r hwyl sydd i’w theimlo drwyddi draw ar yr albwm yma.

Cadi Dafydd – Dirprwy Olygydd golwg360

Un o uchafbwyntiau 2023 i fi oedd dychweliad Cowbois Rhos Botwnnog. Taith deng mlwyddiant Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn oedd un o’r gigiau dwytha i mi eu gweld cyn Covid, a dw i wedi meddwl am gael gwrando ar eu fersiwn byw nhw o ‘Ffarwel i Langyfelach Lon’ eto byth ers hynny. O’r diwedd, daeth dau gyfle dros yr haf – set hudolus yn Eglwys y Santes Fair yn Nolgellau yn ystod Sesiwn Fawr a gig dipyn mwy ym Moduan.

Mae eu halbym diweddaraf o’u gig byw yn Galeri yn 2020 yn benllanw dipyn o aros – rhwng ‘Ffarwel i Langyfelach Lon’, a ’mod i’n aros i’w fersiwn nhw o ‘Ymlaen Mae Canaan’ ymddangos yn rhywle oni bai am Soundcloud ers tua deng mlynedd. Felly, diolch!

Lowri Larsen – Gohebydd Lleol

Fy hoff albwm o 2023 yw Caneuon Tyn yr Hendy gan Meinir Gwilym. Mae Meinir Gwilym yn hen ffefryn gen i. Mae hi o gwmpas yr un oed â fi, felly pan oedd hi’n dod yn enwog gyntaf roeddwn i’n ifanc a dw i wedi dilyn ei gyrfa gerddorol ar hyd y blynyddoedd. Mae gan yr albwm wahanol fathau o ganeuon. Yn y bore wrth ddeffro dw i’n hoffi gwrando ar y caneuon bywiog fel ‘Chwarter i Hanner’ i ddeffro a rhoi fi yn y mood ar gyfer y dydd..

Y gan dw i’n hoffi fwyaf arni yw ‘Yr Enfys a’r Frân’, sy’n gân werin. Mae’r gerddoriaeth yn araf a theimladwy, a llais Meinir Gwilym yn treiddio drwyddo wrth iddi sôn am ddiwrnod lle mae hi’n ffeindio brân ar y lôn. Fyddai’n gwrnado ar hon i ymlacio gyda’r nos.

Lleucu Jenkins – Cynhyrchydd Creadigol

Wrth edrych ‘nol ar yr hyn oedd gan 2023 i gynnig yn gerddorol, mae ‘na sawl ffefryn, ond un sy’n amlwg yn dod i’r brig dros y gweddill. Wedi’r holl aros (dros bum mlynedd) mae Dim Dwywaith, yr albwm newydd gan Mellt, ym mhell o siomi unrhyw un sydd wedi bod yn cyfri lawr y diwrnodau modd eiddgar a mi.  Ers bod yn ffan o’i albwm cyntaf Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc, dw i wedi bod yn ysu am ail albwm, ac yn hapus iawn eleni i wrando ar gasgliad newydd o anthemau, ac eisoes wedi mwynhau eu gwylio nhw’n perfformio’r albwm yn fyw. Dw i wrth fy modd gyda hi, ac yn hapusach fyth i’w derbyn hi ar finyl o’r diwedd, un da i ychwanegu at fy nghasgliad!

Elin Owen – Gohebydd Digidol

Er fy mod i’n teimlo ’mod i wedi brolio’r albwm yma i’r cymylau yn barod eleni, dydy hi ddim yn bosib ei brolio gormod. Dos Bebés gan Rogue Jones yn bendant oedd fy hoff albwm o 2023. Dw i ddim yn cofio’r tro diwethaf i fi fwynhau casgliad cyfan o ganeuon cystal â’r albwm yma, ac mae hi’n un dw i’n troi yn ôl ati.

Albwm sy’n crisialu pob math o gariad ydy hi, ond mae rhan fawr ohono yn ymroddedig i gariad y ddau aelod at eu plant, a’u profiadau o fod yn rhieni. Ond does dim angen bod yn rhiant i ddeall yr hyn mae Rogue Jones yn ceisio’i gyfleu. Ro’n i wrth fy modd yn cael sgwrsio efo nhw ar gyfer Golwg a chael mewnwelediad i’r caneuon a’r straeon y tu ôl iddyn nhw – fel ‘Babette’ yn dod i Bethan wedi’i chyfansoddi’n llawn mewn breuddwyd! Ond os oes rhaid dewis ffefryn, mae’n rhaid i fi ddweud mai ‘1, 2, 3’ ydy fy hoff gân oddi ar yr albwm.

Catrin Lewis – Gohebydd Seneddol

Caneuon Tyn yr Hendy (Meinir Gwilym) – O’n i’n falch iawn pan glywais i fod albwm arall ar y ffordd gan Meinir Gwilym eleni – y gyfres gyntaf o ganeuon newydd gan y gantores ers 2016.

Mae’n anodd iawn dewis hoff gan oddi ar Caneuon Tyn yr Hendy, ond os oes rhaid dewis mae ‘Yr Enfys a’r Frân’ gydag Alys Williams yn sicr yn un wnaeth sefyll allan i fi o’r gwrandawiad cyntaf.

Ond, er fy mod i’n mwynhau’r steiliau acwstig a gwerin sydd i’w glywed mewn lot o’i gwaith diweddar, dw i hefyd yn ffan mawr o’r gan ‘Chwarter i Hanner’ a hynny achos ei fod o’n fy atgoffa i o rhai o’i chlasuron oddi ar ei halbymau cynnar.