Mae banc HSBC wedi cael eu cyhuddo o fod yn “amharchus”, ar ôl iddyn nhw ofyn i gwsmer ailanfon neges yn Saesneg, ar ôl iddi yrru neges yn Gymraeg atyn nhw.

Dywed Llŷr Gruffydd, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd yn y gogledd, fod hyn yn “esiampl arall” o “ddiystyrwch llwyr” y banc “tuag at siaradwyr Cymraeg”.

Dywedodd aelod o dîm cwsmeriaid y banc nad oedd modd iddyn nhw ddarllen y neges Gymraeg, ac felly nad oedd modd iddyn nhw helpu â’r ymholiad.

Mae’r neges yn cyfeirio at y Deyrnas Unedig, gan awgrymu bod y sawl anfonodd y neges ar ddeall bod y neges wedi dod o’r tu allan.

Daw hyn yn fuan ar ôl iddyn nhw gyhoeddi eu bod nhw’n dirwyn eu llinell ffôn Gymraeg i ben ym mis Ionawr.

‘Dirmyg’

Mae Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd wedi ysgrifennu at y banc gan eu cyhuddo o ddangos “dirmyg” tuag at siaradwyr Cymraeg, gan ddweud bod “methiant HSBC i gynnal dull sy’n cyd-fynd â’i werthoedd yn cael ei ystyried yn annidwyll ac yn annifyr”.

Aeth José Carvalho, Pennaeth Cyfoeth a Bancio Personol HSBC, gerbron y pwyllgor i roi tystiolaeth ddiwedd mis Tachwedd.

Dywedodd y banciwr fod y llinell gymorth Gymraeg yn derbyn tua 22 o alwadau y diwrnod, ac mai dim ond 6% o’r galwadau sy’n cael eu hateb yn Gymraeg.

Ond tarodd y pwyllgor yn ôl gan ddweud bod hyn yn golygu nad yw 94% o’r galwadau’n cael eu hateb yn Gymraeg, a bod hyn yn dangos methiant sylfaenol yng ngwasanaeth y banc.

Dywedodd y pwyllgor bod y nifer isel i’r llinell yn adlewyrchu “anallu” HSBC i ddarparu gwasanaeth gweithredol a chyson sy’n diwallu anghenion ei gwsmeriaid Cymraeg eu hiaith.”

‘Cwbl annerbyniol’

“Mae hyn yn esiampl arall o ddiystyrwch llwyr HSBC tuag at siaradwyr Cymraeg,” meddai Llŷr Gruffydd.

“Mae o yn gwbl annerbyniol bod HSBC wedi gofyn i fy etholwraig ailyrru eu ymholiad iaith Gymraeg yn Saesneg.

“Mae yna lawer iawn o rwystredigaeth a dicter yng Nghymru am agwedd HSBC tuag at yr iaith Gymraeg.

“Fel siaradwr Cymraeg fy hun a fel aelod o Bwyllgor Diwylliant y Senedd rydw i’n rhannu’r rhwystredigaeth yna.

“Mae HSBC wedi cau nifer mawr o ganghennau lleol ar draws gogledd Cymru dros y degawd diweddar, sydd wedi creu problemau i nifer o gwsmeriaid.

“Dylid gael ei gofio bod llawer o gwsmeriaid HSBC yn bobl hŷn ac yn fregus, ac eu bod nhw angen gwasanaeth bancio wyneb i wyneb.

“Mae HSBC yn hoff o ddisgrifio ei hyn fel banc lleol y byd. Wel mae o’n hollol glir nid yw hyn yn wir yng Nghymru tra ei fod yn ymadael a siaradwyr Cymraeg ac yn ymadael ein strydoedd mawr trwy gau canghennau.

“Pan mae cwsmer yn e-bostio yn Gymraeg y lleiafswm y dylent dderbyn ydi ateb yn Gymraeg.

“Rydw i hefyd yn galw eto ar HSBC ailystyru y penderfyniad i gau y llinell gymorth Cymraeg.

“Dylid cofio bod nifer o gwsmeriaid yn defnyddio HSBC achos o’r llinell gymorth Gymraeg, ac heb os mae o’n wir bod y banc ddim wedi gwneud digon i’w hybu.

“Mae hyn yn ergyd mawr arall i’w cwsmeriaid yng Nghymru, yn enwedig cwsmeriaid hŷn sydd yn cael trafferth cael mynediad i wasanaeth digidol.

“Mae ymrwymiad y banc i trefnu galwad yn ôl yn Gymraeg o fewn 3 diwrnod gwaith yn hynod o amharchus i siaradwyr Cymraeg. Mae o hefyd yn ansensitif i’r pwysau ariannol mae rhai yn wynebu.

“I nifer iawn o bobl dydi cael mynediad i’w banc trwy’r Gymraeg ddim yn “ddewis” fel mae HSBC yn ei ddweud. Mae HSBC yn dweud eu bod nhw wedi ‘cadarnhau’ bod i gyd o’u cwsmeriaid yn medru bancio yn Saesneg.

“Mae hyn yn agwedd sydd yn perthyn i ganrif arall.

“Mae o hefyd yn anwir, yn enwedig i nifer o bobl hyn a bregus. Mae angen i HSBC newid y penderfyniad yma a symud tuag at hybu gwasanaethau Cymraeg, gan cynnwys derbyn e-byst iaith Gymraeg gan gwsmeriaid.”

HSBC: Tridiau i ymateb i alwadau Cymraeg

Cyhuddodd un o bwyllgorau’r Senedd y cwmni o beidio a darparu yn ddigonol ar gyfer cwsmeriaid Cymraeg

HSBC yn wynebu cwestiynau gan un o bwyllgorau’r Senedd

Daw hyn yn dilyn penderfyniad y banc yn ddiweddar i ddirwyn gwasanaeth Cymraeg i ben