Mae pryderon wedi’u codi yn sgil toriadau i’r cynllun Bwndeli Babanod, yn dilyn y cyhoeddiad cyllidebol.
Bwriad y rhaglen yw sicrhau’r “dechrau gorau” i fabanod, trwy gynnig pecyn o ddillad ac anrhegion eraill i rieni babanod newydd-anedig.
Trwy gynnig dillad babi niwtral o wahanol feintiau, eitemau chwarae ac eitemau i’r cartref, gobaith y cynllun yw lleddfu pwysau ariannol.
Mae’r bwndeli hefyd yn cynnwys pecynnau gwybodaeth ar bynciau fel bwydo ar y fron, cysgu’n ddiogel ac ymlyniad, er mwyn tawelu meddyliau rhieni newydd.
Cafodd y cynllun ei dreialu ym Mae Abertawe, ac fe dderbyniodd ganmoliaeth eang.
Fodd bynnag, yn eu cyhoeddiad cyllidebol yr wythnos hon, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd £3.5m yn cael ei dorri o’r rhaglen.
Yn ogystal, fydd y cynnig ddim yn un cyffredinol mwyach er iddo dderbyn canmoliaeth am ei fod yn rywbeth ar gyfer pawb yn wreiddiol.
Blaenoriaethu tlodi plant
Mae llefarydd cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb Plaid Cymru’n pryderu bod y newidiadau i’r cynllun yn groes i argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, oedd wedi nodi pwysigrwydd “cefnogaeth gyffredinol gref” yn y blynyddoedd cynnar.
“O ganu ei glodydd, i gyfyngu ar eu huchelgais yn sylweddol, mae tro pedol Llywodraeth Cymru ar y cynllun bwndel babi llwyddiannus yn hynod siomedig,” meddai Sioned Williams.
“Roedd canmoliaeth eang i’r cynllun peilot yn Abertawe i’w chlywed ar draws y Senedd, ac mae’n hysbys bod manteision ymyriadau cynnar yn hanfodol wrth fynd i’r afael â thlodi plant.
“Mae’n siomedig iawn felly y bydd cyfyngiadau’n cael eu gosod ar ba fabanod sy’n gymwys.”
Ychwanegodd bod nifer o deuluoedd sydd ddim yn gymwys am arian ychwanegol yn cael trafferth fforddio eitemau bob dydd.
“O ran mynd i’r afael â thlodi plant, rhaid i ddull Llywodraeth Cymru fod yn fwy strategol,” meddai.
“Gyda’r oedi i’r strategaeth tlodi plant, dileu prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau, a nawr y cyfyngiadau sy’n cael eu gosod ar ba fabanod fydd yn gymwys i gael Bwndel Babanod, mae eu record wael yn siarad drosto eu hunain.”
Yn ôl Sioned Williams, dylai mynd i’r afael â thlodi plant fod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn “archwilio amrywiaeth o opsiynau” ar gyfer y flwyddyn newydd, er mwyn sicrhau’r dechrau gorau i fabanod.
“Rydyn ni wedi ail-lunio ein cynlluniau gwariant fel y gallwn fuddsoddi mwy yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a diogelu cyllid llywodraeth leol craidd ar gyfer ysgolion, gofal cymdeithasol a gwasanaethau eraill rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw bob dydd,” meddai.
“Ar hyn o bryd rydym yn archwilio amrywiaeth o opsiynau ar gyfer cyflawni’r ymrwymiad y flwyddyn nesaf, er mwyn sicrhau bod mwy o deuluoedd yng Nghymru yn cael yr hanfodion i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i’w plentyn.
“Er na chytunir ar gymhwysedd ar gyfer Bwndel Babi eto, rydym yn symud at fodel i sicrhau y gall gyrraedd y rhieni beichiog hynny sydd â’r angen mwyaf am gymorth.”