Mae pob Aelod o’r Senedd bellach wedi datgan pwy fyddan nhw’n ei gefnogi yn y ras i arwain y Blaid Lafur.
Cafodd y rhestr ei chwblhau wrth i Eluned Morgan ddatgan ei chefnogaeth i Vaughan Gething yn y ras yn erbyn Jeremy Miles.
Mae’r enwebiadau ar gyfer arweinydd nesaf Llafur Cymru wedi cau erbyn hyn, gan adael y ddau ymgeisydd yn y ras i olynu Mark Drakeford.
Roedd angen pum enwebiad yr un ar Jeremy Miles a Vaughan Gething er mwyn sefyll yn y bleidlais derfynol, ac mae’r ddau wedi llwyddo i gyrraedd y targed.
Dydy Mark Drakeford na Jane Hutt ddim yn gallu datgan cefnogaeth oherwydd eu rolau yn Llywodraeth Cymru.
Bydd y bleidlais yn cael ei chynnal ym mis Chwefror, ac mae disgwyl y bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar Fawrth 16.
O’r 30 Aelod Llafur o’r Senedd, mae 17 wedi cyhoeddi eu bod yn cefnogi Jeremy Miles, tra bod naw yn cefnogi Vaughan Gething.
Y rhai sy’n cefnogi Jeremy Miles yw Mick Antoniw, Julie Morgan, Lee Waters, Jenny Rathbone, Carolyn Thomas, Rhianon Passmore, John Griffiths, Mike Hedges, Hannah Blythyn, Alun Davies, Sarah Murphy, David Rees, Lesley Griffiths, Julie James, David Rees, Buffy Williams a Huw Irranca-Davies.
Er iddi ddatgan ei chefnogaeth i Jeremy Miles yn y pen draw, roedd disgwyl y byddai Hannah Blythyn hefyd wedi cyflwyno’i henw i fod yn arweinydd nesa’r blaid.
Fodd bynnag, cyhoeddodd ei bod hi wedi penderfynu nad yw’r amser yn teimlo’n iawn iddi, ac felly ei bod hi am roi ei chefnogaeth i Jeremy Miles.
“Mewn gwleidyddiaeth fel mewn bywyd, amseru yw popeth,” meddai.
“Er fy mod yn ddiolchgar am y gefnogaeth a roddwyd i mi ar draws y mudiad Llafur, ar ôl ystyried yn ofalus, rwyf wedi penderfynu cefnogi @Jeremy_Miles i fod yn Arweinydd Llafur Cymru nesaf.
“Mae ein cymunedau a’n gwlad yn parhau i wynebu cyfnod cythryblus gyda phwysau ariannol digynsail ar ein gwasanaethau cyhoeddus, diolch i 13 mlynedd o galedi gan y Torïaid.
“Rwy’n credu mai Jeremy yw’r person iawn i’n harwain drwy’r heriau presennol hyn a symud ein gwlad ymlaen.”
‘Yr unig Brif Weinidog’
Dywed Lee Waters mai Jeremy Miles yw’r unig ymgeisydd sy’n bodloni’r hyn mae’n ei ddisgwyl gan Brif Weinidog.
“Er mwyn ennill fy nghefnogaeth, mae angen i ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth ein plaid ddangos dealltwriaeth o’r heriau a gyflwynir gan newid hinsawdd a phenderfyniad i fynd i’r afael ag ef mewn ffordd sy’n gwella cyfiawnder cymdeithasol; ymrwymiad i barhau i ddatblygu’r setliad datganoli, a dealltwriaeth o’r ffordd y mae busnesau’n gweithio a pharodrwydd i fabwysiadu ymagwedd ddychmygus at ddatblygu’r economi,” meddai.
“Jeremy Miles yw’r unig un i fodloni’r profion hynny.”
Er hynny, ychwanega y byddai “pwy bynnag sy’n ennill yn dod ag amrywiaeth i’w groesawu i’r Gymru fodern”.
Cefnogaeth i Vaughan Gething
Mae gan Vaughan Gething gefnogaeth ddeg o Aelodau, sef Eluned Morgan, Jack Sargeant, Dawn Bowden, Jayne Bryant, Hefin David, Rebecca Evans, Vikki Howells, Lynne Neagle, Joyce Watson a Ken Skates.
Y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan, ddaeth yn drydydd yn y ras arweinyddol ddiwethaf, yw’r diweddaraf a’r olaf i gyhoeddi ei chefnogaeth.
“Heddiw, rydw i wedi enwebu Vaughan Gething i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru,” meddai.
“Mae Vaughan wedi dangos ei allu mewn swydd hynod gyfrifol trwy gydol y pandemig, gan ei wneud yn ymgeisydd cryf gyda dealltwriaeth ddofn o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar gyfer swydd Prif Weinidog Cymru.”
Hefyd yn ei gefnogi mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
“Bydd Vaughan yn cael fy nghefnogaeth i fod yn ein Harweinydd nesaf ni,” meddai.
“Yn angerddol, yn ddisglair ac yn brofiadol, mae gan Vaughan y gallu a’r egni sydd eu hangen arnom i sicrhau ffyniant i Gymru heddiw, ac i genedlaethau’r dyfodol.”
‘Anrhydedd fawr’
Dywed Vaughan Gething ei bod yn “anrhydedd fawr” cael bod yn ymgeisydd yn y ras, “a chael cefnogaeth ystod eang o Aelodau’r Senedd, yn ogystal â chefnogaeth gref gan Aelodau Seneddol a llywodraeth leol. Rwyf hefyd yn falch o gael cymeradwyaeth Community, yr undeb llafur cyntaf i gefnogi ymgeisydd yn y ras”.
“Cryfder y Blaid Lafur yw ei ehangder, ac mae’r aelodau, undebau llafur, CLPs a’r Sefydliadau Cysylltiedig yn rhannau hollbwysig o’n mudiad,” meddai.
“Mae’r gystadleuaeth arweinyddiaeth newydd ddechrau, ac rwy’n edrych ymlaen at ymgyrch gadarnhaol.
“Rwy’n obeithiol ac yn uchelgeisiol ynglŷn â’r dyfodol y gallwn ei greu i Gymru gyda’n gilydd, o swyddi gwyrdd newydd a thwf i ddiogelu ein gwasanaethau rheng flaen gwerthfawr.
“Dyfodol gafodd ei adeiladu gan bob un ohonom.”