Mae pryderon y bydd costau gofal deintyddol yn cynyddu yng Nghymru, gan achosi rhwystrau pan ddaw at fynediad at wasanaethau.
Daw’r pryderon yn dilyn cyhoeddi Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth (Rhagfyr 19).
Yn ôl adroddiad gan Lywodraeth Cymru, dim ond 39.9% o oedolion sydd yn byw mewn ardaloedd incwm isel sydd â mynediad at ofal deintyddol.
Yn ogystal, doedd 93% o ddeintyddion Cymru ddim yn derbyn oedolion fel cleifion newydd yn 2022, tra nad oedd 88% yn derbyn plant.
Yn ôl Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, byddai codi ffïoedd yn atal pobol rhag gallu cael mynediad at wasanaethau meddygol hanfodol.
Mae hi hefyd eisiau gweld lleihau rhestrau aros ar gyfer gofal deintyddol yn cael ei flaenoriaethu.
Buddsoddi yn lleol
Dywed Jane Dodds fod “dirfawr” angen buddsoddiad yn y maes, yn hytrach na chynyddu costau.
“Ar adeg pan mae ein gwasanaethau deintyddiaeth eisoes ar y dibyn, y peth olaf sydd angen i ni ei weld yw codiad mewn ffioedd. Yn enwedig pan fo pobl eisoes yn cael trafferth gyda chostau byw,” meddai.
“Mae dirfawr angen buddsoddiad ar frys yn ein gwasanaethau deintyddiaeth yma yng Nghymru, fel y gallwn dorri i lawr ar restrau aros a darparu triniaeth ataliol i blant.”
Ychwanega fod angen buddsoddi mewn gwasanaethau gofal deintyddol lleol hefyd, er mwyn sicrhau bod y rheiny sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yn gallu cael mynediad hawdd atyn nhw.
Pwysau “eithafol” ar y gyllideb
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod pwysau ariannol yn golygu nad oes dewis ond ystyried cynyddu costau rhai gwasanaethau.
“Gan fod ein cyllideb o dan bwysau mor eithafol, mae’n briodol i ni ystyried yn ofalus a ellir – ac a ddylai – godi arian ychwanegol drwy gynyddu taliadau am ystod o wasanaethau, gan gynnwys deintyddiaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, wrth i ni barhau i sicrhau ein bod yn amddiffyn y rhai lleiaf abl i fforddio taliadau uwch,” meddai.
“Mae eithriadau ar waith i bobol ar fudd-daliadau penodol ac mae’r cynllun incwm isel yn darparu cymorth llawn neu rannol gyda chostau iechyd yn dibynnu ar amgylchiadau unigol.”