Mae YesCymru wedi diswyddo eu Prif Weithredwr Gwern Gwynfil er mwyn sicrhau bod “cyllid YesCymru yn parhau mewn sefyllfa iach”, yn ôl adroddiadau.
Dywed Barry Parkin, cadeirydd YesCymru, fod bwrdd cyfarwyddwyr YesCymru wedi penderfynu y byddai’n “anghynaladwy” parhau i gyflogi’r Prif Weithredwr, a bod angen gwario arian aelodaeth “yn ddoeth”.
“Mae’r drafodaeth am sefyllfa’r Prif Swyddog Gweithredol wedi bod yn mynd rhagddi dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rhywbeth yr oedd y Prif Swyddog Gweithredol yn ymwybodol ohono, ac nid oedd yn benderfyniad hawdd i’w wneud, ond weithiau mae’n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd er lles y sefydliad, tra gan gydnabod bod lleiafrif o Gyfarwyddwyr yn anghytuno â phenderfyniad mwyafrifol y Bwrdd,” meddai.
Ychwanega nad oes unrhyw elfen o gamymddwyn yn gysylltiedig â’r rheswm dros ddiswyddo Gwern Gwynfil a bod y penderfyniad yn gwbl seiliedig ar ystyriaethau ariannol.
Cafodd yr hysbysiad diswyddo ei roi dros e-bost yn y pen draw, ond mae Barry Parkin yn honni bod pob ymdrech wedi’i wneud i gysylltu gyda’r prif weithredwr mewn ffordd fwy priodol.
“Ar y diwrnod y gwnaeth y Bwrdd y penderfyniad i derfynu’r contract, gwnaethpwyd ymdrechion i gysylltu â’n Prif Weithredwr, Gwern Gwynfil, dros y ffôn a thrwy negeseuon WhatsApp i drafod y penderfyniad, ond ni ddychwelwyd unrhyw un o’m negeseuon na’m galwadau,” meddai.
‘Sicrhau dyfodol llewyrchus’
Roedd adroddiadau’n nodi bod y tâl diswyddo’n gyfwerth ag £20,000 ond dywed Barry Parkin nad yw’r ffigwr hwnnw’n gywir.
Mae’r cadeirydd hefyd wedi ymateb i’r rheiny sy’n “ceisio tanseilio’r penderfyniadau” sydd wedi’u gwneud gan Fwrdd YesCymru ac sydd wedi ymosod yn bersonol ar aelodau’r Bwrdd, gan ddweud ei fod yn “hynod o siomedig”.
“Ni fydd yr elfennau hynny’n llwyddo i danseilio ein ffocws, sy’n parhau i fod ar gefnogi ein haelodau llawr gwlad, y grwpiau lleol, ac ymgyrchoedd i barhau i ysgogi’r twf a welsom yn ddiweddar yn y gefnogaeth i Annibyniaeth Cymru,” meddai.
Mewn neges at aelodau, dywed YesCymru fod y penderfyniad wedi’i wneud er mwyn “sicrhau dyfodol llewyrchus” i’r mudiad.
“Diolch i Gwern am ei wasanaeth a dymunwn yn dda i Gwern am y dyfodol,” meddai.
“Yn ystod 2024 bydd YesCymru yn canolbwyntio ar ddatblygu a chryfhau ei grwpiau llawr gwlad er mwyn ehangu’r alwad am annibyniaeth i Gymru.
“Diolch ichi am gefnogi YesCymru yn ystod 2023, yn enwedig gan bod y cynnydd mewn costau yn effeithio ni i gyd.
“Mae y frwydr dros annibyniaeth i Gymru yn parhau.”
Ymateb Gwern Gwynfil
Wrth siarad â gwefan newyddion Nation.Cymru, dywed Gwern Gwynfil ei fod yn anghytuno â’r ffordd y cafodd y penderfyniad i’w ddiswyddo ei wneud.
Fodd bynnag, ychwanega y dylai’r ffocws fod ar y ddadl dros annibyniaeth.
“Dydw i ddim yn credu ei bod hi’n addas i bum unigolyn wneud penderfyniad materol o’r raddfa hon i fudiad o filoedd, yn enwedig dim ond pedair wythnos cyn CCA lle gellir canfasio barn yr aelodaeth gyfan, ond nid hyn yw’r elfen bwysicaf o safbwynt annibyniaeth,” meddai.
“Dros y flwyddyn ddiwethaf mae YesCymru wedi tyfu mewn dylanwad, wedi adeiladu rhwydwaith llawr gwlad cryf a gweithgar o grwpiau ac wedi gweld cefnogaeth i annibyniaeth yn cynyddu’n gyson mewn arolygon barn.
“Y peth pwysig heddiw yw bod YesCymru yn parhau i esblygu, bod etholiadau mewnol Chwefror yn fywiog a gornest, gydag ymgeiswyr â gweledigaeth, egni a chred wirioneddol fod annibyniaeth o fewn ein gafael.
“Gall yr esblygiad hwn, i YesCymru 3.0 os dymunwch, osod y llwyfan ar gyfer degawd gwirioneddol drawsnewidiol i Gymru.
“Un lle mae YesCymru yn gweithio i yrru’r ddadl annibyniaeth yn ei blaen ac un sy’n gorffen gyda Chymru annibynnol.
“Dyma’r hyn y gall ac y dylai YesCymru fod, dyma beth mae’r aelodau’n ei ddisgwyl a dyma beth all yr aelodau eu hunain ei gyflawni.”