Mae Jeremy Miles yn rhybuddio na fydd e’n galluogi San Steffan i “sathru” ar y setliad datganoli.

Daw hyn wrth iddo fe anfon llythyr at Gillian Keegan, Ysgrifennydd Addysg Lloegr, ynghylch ei chynlluniau i gyfyngu ar hawliau athrawon i streicio.

Wrth gyflwyno’i rhybudd, dywedodd Gillian Keegan y byddai’n berthnasol i athrawon yng Nghymru hefyd.

Ond mae hynny wedi ennyn ymateb chwyrn yn y Senedd.

“Heddiw, rwy wedi ysgrifennu at Gillian Keegan i’w hatgoffa bod addysg wedi’i ddatganoli i Gymru, ac i ailadrodd na fyddaf yn caniatáu iddi sathru dros y setliad datganoli wrth iddi geisio cyfyngu ar hawliau’r gweithlu addysg yng Nghymru,” meddai Jeremy Miles ar X (Twitter gynt).

Mae ei neges yn cynnwys copi o’r llythyr mae e wedi’i anfon ati.

Cefndir

Mae swyddogion yn Adran Addysg San Steffan wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru i roi gwybod am eu hymgynghoriad, wrth iddyn nhw ystyried cyflwyno rheoliadau’n ymwneud ag isafswm lefel gwasanaeth mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion yn Lloegr.

“Mae’r ymgynghoriad yn cyfeirio at y potensial i’r rheoliadau hyn orfodi’r fath isafswm lefel gwasanaeth ar y sector addysg yng Nghymru,” meddai Jeremy Miles yn ei lythyr.

Gan egluro fod materion addysg wedi’u datganoli i Gymru, eglura mai Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol am y maes ac am “bolisïau sy’n sicrhau safonau ar draws y sector”.

Dywed nad yw’n “briodol” i Adran Addysg San Steffan orfodi rheoliadau ar weithwyr yng Nghymru, bod sefyllfaoedd Cymru a Lloegr “yn wahanol”, ac nad y rheoliadau dan sylw yw’r “ymateb cywir i streiciau”.

“Nid yn unig mae cyflwyno’r cyfreithiau newydd hyn yn sathru ar y setliad datganoli, ond maen nhw hefyd yn cyfyngu’n annheg ar hawliau gweithwyr i weithredu’n ddiwydiannol,” meddai Jeremy Miles.

“Yr ymateb cywir yw cydweithio â chyflogwyr ac undebau mewn partneriaeth gymdeithasol i ddatrys anghydfodau gyda’n gilydd.”