Mae Amgueddfa Cymru wedi rhybuddio bod posibilrwydd y bydd yn rhaid “torri swyddi” oherwydd y gostyngiad o 10.5% i’w cyllideb gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf.
Daeth cyhoeddiad y Llywodraeth ar y Gyllideb Drafft ar gyfer 2024 – 2025 ddoe (dydd Mawrth, Rhagfyr 19), gyda thoriadau ar draws holl bortffolios y Llywodraeth, ac eithrio iechyd.
Dywed llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru fod y newyddion yn golygu bod yn rhaid i’r corff, sy’n croesawu 1.3m o ymwelwyr i’w saith amgueddfa mewn blwyddyn, ystyried ffyrdd newydd o arbed arian, ac o bosib y gall olygu “colli swyddi”.
“Dyma’r toriad mwyaf i gyllideb yn hanes yr Amgueddfa,” meddai.
“Bydd yn cael effaith fawr ar waith Amgueddfa Cymru o ddydd i ddydd.
“Er mwyn sicrhau y gall y sefydliad barhau i weithredu o dan y gyllideb newydd, mae Amgueddfa Cymru yn gorfod ystyried gwahanol ffyrdd o arbed arian, gan gynnwys newid trefniadau gweithredu, cau gwasanaethau, ac o bosibl golli swyddi.
“Mae hwn yn gyfnod cythryblus i Amgueddfa Cymru, a’r flaenoriaeth gyntaf dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod yw darparu gofal a chefnogaeth i’n staff a’n gwirfoddolwyr.
“Byddwn hefyd yn ymgynghori â’r undebau llafur drwy gydol y broses.”
‘Effeithiau hirdymor sylweddol’
“Rhaid i ni sylweddoli y bydd effeithiau hirdymor y toriadau hyn ar Amgueddfa Cymru, a’r sector diwylliant yng Nghymru, yn sylweddol,” meddai Jane Richardson, Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru.
“Rydyn ni eisoes yn gweithio mewn hinsawdd economaidd hynod heriol ar ôl Covid, wrth i ni geisio rheoli risgiau er mwyn gwarchod, diogelu a hyrwyddo’r casgliad cenedlaethol.
“Mae’r sefyllfa hon yn heriol i bawb, ac rydyn ni’n cydnabod y bydd rhaid i ni wneud penderfyniadau ariannol anodd.
“Byddwn yn canolbwyntio ar gyflawni ein pwrpas creiddiol, sef ysbrydoli addysg a mwynhad i bawb drwy gyfrwng casgliad cenedlaethol Cymru.”
‘Llywio ein dyfodol’
Ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ym mis Hydref fod toriadau ar y ffordd, aeth Ymddiriedolwyr ac uwch-dîm Amgueddfa Cymru ati i gynllunio ar gyfer newidiadau.
Mae’r sefydliad yn bwriadu dechrau ar raglen sylweddol, o dan y teitl ‘Llywio ein Dyfodol’, er mwyn cynllunio a sicrhau dyfodol mwy cynaladwy i Amgueddfa Cymru.
“Rhaid i ni edrych eto ar beth yw Amgueddfa Cymru, beth ydyn ni’n ei gynrychioli, a beth ydyn ni’n ei gyflawni,” meddai Jane Richardson.
“Mae gwahanol gyfleoedd ac opsiynau i’w hystyried, ond nid yw am fod yn hawdd ac mae llawer mwy o heriau ar y gorwel.
“Mae’r casgliad cenedlaethol yn drysor diwylliannol gwerthfawr sy’n perthyn i holl bobol Cymru.
“Mae’n adnodd i bawb ei fwynhau a’i brofi yn eu cymunedau, yn ein teulu o amgueddfeydd, ac yn ddigidol.
“Mae’n cynrychioli ac yn dathlu celf, hanes, gwyddoniaeth a diwylliant amrywiol Cymru.
“Mae felly yn hollbwysig ein bod yn taclo’r her ariannol hon gyda’r nod o greu Amgueddfa Cymru sy’n ffit i’r dyfodol.”
‘Heriol’
Rhoddodd Prif Weithredwr Cyngor y Celfyddydau ei ymateb yntau i’r toriad cyffelyb i’w cyllideb hwythau yn gynharach heddiw.
“Bydd y toriad newydd sylweddol hwn o 10.5% yn ei gwneud yn fwy heriol fyth i sicrhau bod gweithgarwch celfyddydol o safon uchel ar gael ledled Cymru ar gyfer ein holl gymunedau,” meddai Dafydd Rhys.