Fyddai Mark Drakeford ddim yn derbyn sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi, meddai.
Daw sylwadau Prif Weinidog Cymru wrth iddo siarad â Press Association, gan ddweud bod y sefydliad yn “anachroniaeth ddemocrataidd”.
Mae gan Lafur 175 o Arglwyddi ar hyn o bryd, o gymharu â’r 270 sydd gan y Ceidwadwyr, ac mae Llafur wedi dweud yn ddiweddar bod angen iddyn nhw gynyddu eu niferoedd wrth i’r rhai sydd yno eisoes heneiddio.
“Fyddwn i ddim am geisio dod yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi anetholedig,” meddai Mark Drakeford.
“Yn syml, dw i ddim yn credu mai dyna’r ffordd gywir i redeg pethau mewn democratiaeth.”
Mae’n cefnogi awgrym Gordon Brown, cyn-Brif Weinidog Llafur y Deyrnas Unedig, i gael gwared ar Dŷ’r Arglwyddi yn y tymor hir, a sefydlu corff etholedig newydd yn ei le fyddai’n “gynulliad o genhedloedd a rhanbarthau”.
“Tra bod Tŷ’r Arglwyddi fel ag y mae nawr – wedi’i chwyddo, yn anetholedig, heb fod yn atebol i neb… dydy hwnnw ddim yn lle dw i’n bwriadu treulio fy amser,” meddai.