Mae cais i wneud gwaith ac ymestyn maes parcio “dryslyd” Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, sydd mewn “cyflwr gwael”, wedi cael ei roi i gynllunwyr yng Ngheredigion.
Mae’r cais, sydd wedi cael ei wneud gan Mark Stevens o’r Llyfrgell Genedlaethol, yn gofyn am adnewyddu a rhoi wyneb newydd ar y maes parcio i’r de o’r llyfrgell, ynghyd â gosod arwyddion newydd, goleuadau ychwanegol, mwy o ddraeniau a gwneud estyniad 70 metr sgwâr i gael llwybr cerdded newydd.
Yn ôl asesiadau effaith treftadaeth gan Catalina Architecture & Design Ltd, sy’n cyd-fynd â’r cais, mae’r maes parcio mewn cyflwr gwael ac angen gwaith.
“Mae rhannau o’r tarmac wedi cael eu trwsio sawl gwaith, ond gan fod lefelau’r gwaith yn amrywio mae hynny wedi cael effaith niweidiol ar y gwaith draenio,” meddai.
“Mewn ambell ardal, mae dŵr yn casglu’n sylweddol pan mae hi’n bwrw.
“Nid oes draeniau digonol mewn rhai rhannau o’r maes parcio chwaith.
“Mae’r marciau ar y safleoedd parcio’n ddryslyd.
“Mae defnyddwyr y maes parcio’n cwyno’n rheolaidd fod cynllun y maes parcio’n ddryslyd a bod arwyddion a chyfarwyddiadau traffig yn wael.
“Yn ogystal, mae’r goleuadau yn y maes parcio’n wael ac anghyson.”
‘Cyfleuster pwysig’
Mae’r datganiad treftadaeth yn mynd yn ei flaen mewn peth manylder i sôn am hanes y llyfrgell.
“Cafodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ei sefydlu gan Siarter Brenhinol yn 1907,” meddai.
“Agorodd drysau’r Llyfrgell Genedlaethol am y tro cyntaf ar Ionawr 1, 1909, ac am bron i wyth mlynedd bu ei gartref dros dro ym Maes Lowri ger yr Hen Goleg yn Aberystwyth.
“Cafodd adeilad y Llyfrgell Genedlaethol ei ddylunio gan y Pensaer Sidney Kyffin Greenslade, gyda chymorth Reginald Blomfield a’i gwblhau’n raddol gan Adams, Holden a Pearson. Cafodd y sylfaeni eu gosod ar Orffennaf 15, 1911 gan y Brenin Siôr V a’r Frenhines Mary.
“Chafodd yr adeilad ddim ei gwblhau yn ei grynswth tan 1937, wedi oedi’n sgil y Rhyfel Byd Cyntaf a chaledi ariannol gan fod y llyfrgell yn dibynnu’n fawr ar roddion cyhoeddus i ariannu’r gwaith adeiladu.
“Mae’r llyfrgell yn gartref i gopi o bob gwaith printiedig sy’n cael ei gyhoeddi ym Mhrydain ac Iwerddon.
“Dyma’r llyfrgell fwyaf yng Nghymru, yn dal dros 6.5 miliwn o lyfrau a chyfnodolion, a’r casgliad mwyaf o archifau, portreadau, mapiau a ffotograffau yng Nghymru.
Dywed y datganiad fod y llyfrgell wedi dechrau amrywio eu gwaith yn ddiweddar, ac wedi dechrau cynnal priodasau a chynadleddau, a bod y maes parcio’n dod yn gyfleuster pwysig i’r llyfrgell sy’n dibynnu’n fwyfwy ar bobol yn cyrraedd mewn ceir, “a’i fod yn bwysig i sicrhau fod y gweithgareddau ychwanegol sy’n cael eu cynnal yn y llyfrgell i’r gymuned a’r cyhoedd yn rhedeg yn llyfn”.
Bydd y cais ar gyfer y maes parcio’n cael ei ystyried gan gynllunwyr yn y man.