Mae 112,000 – neu un ym mhob chwech – o bobol hŷn Cymru’n dweud mai Dydd Nadolig yw’r diwrnod anoddaf yn ystod y flwyddyn, yn ôl Age Cymru.
Wrth ymateb, mae’r elusen yn annog y cyhoedd i gadw llygad ar eu cymdogion hŷn dros yr ŵyl.
Er bod unigrwydd yn cael effaith ar bobol drwy gydol y flwyddyn, dywed Age Cymru fod hyn yn arbennig o wir dros gyfnod y Nadolig.
Mae Age Cymru eisoes wedi bod yn gweithio i leddfu unigrwydd trwy eu gwasanaethau cymorth, ond maen nhw’n dweud bod yn rhaid cael cefnogaeth y cyhoedd er mwyn mynd ymhellach wrth fynd i’r afael ag unigrwydd.
Felly, maen nhw wedi lansio ymgyrch i godi arian er mwyn gallu parhau i gynnig y gwasanaethau cymorth priodol.
“Y llynedd, deliwyd â mwy na 48,000 o ymholiadau gan wasanaethau gwybodaeth a chyngor y Bartneriaeth,” meddai eu Prif Weithredwr Victoria Lloyd.
“Tra bod mwy na 11,000 o bobol hŷn wedi elwa o wasanaethau cyfeillgarwch amrywiol sy’n arbennig o bwysig dros yr ŵyl.
“Fodd bynnag, mae ein hymchwil yn dangos yn glir fod angen i ni wneud llawer mwy.
“A dim ond gyda chefnogaeth y cyhoedd y gallwn ni wneud hynny.
“Felly, os gallwch chi gyfrannu neu drefnu digwyddiad codi arian y Nadolig hwn, gwnewch hynny a helpwch ni i estyn allan at fwy o bobol hŷn.”
Gwneud y pethau bychain
Yn ôl Victoria Lloyd, byddai codi arian yn galluogi pobol hŷn i gael mynediad at wasanaethau cymorth hanfodol drwy gydol y flwyddyn, ond yn enwedig dros y Nadolig.
Gall colli aelod o’r teulu, salwch neu fyw ymhell oddi wrth deulu olygu bod pobol hŷn yn teimlo’n fwy unig nag arfer dros yr ŵyl.
Eleni, mae disgwyl i 85,000 o bobol dros 65 mlwydd oed fwyta’u cinio Nadolig ar eu pennau eu hunain yng Nghymru.
Dywed un ym mhob pump eu bod nhw’n dymuno cael rhywun i dreulio’r ŵyl gyda nhw.
Fodd bynnag, dywed Age Cymru y gall gwneud y pethau bychain fynd yn bell hefyd pan ddaw i godi hwyliau pobol hŷn.
Yn ôl yr elusen, gall codi llaw neu brynu cerdyn Nadolig wneud gwahaniaeth mawr i’r rheiny sy’n teimlo’n unig.
Maen nhw hefyd yn annog y cyhoedd i wahodd pobol hŷn yn eu cymunedau draw am baned, a gall y rheiny sydd â hanner awr i’w sbario bob wythnos wirfoddoli i gymryd rhan yng ngwasanaeth Ffrind mewn Angen yr elusen, er mwyn cael sgwrs dros y ffon gyda pherson hŷn bob wythnos.