Does gan 91% o geiswyr lloches yng Nghymru a gweddill gwledydd Prydain ddim digon o arian i brynu bwyd drwy’r amser, yn ôl ymchwil newydd.

Mae adroddiad gan Asylum Matters yn dangos bod 97% o’r 300 gafodd eu holi yn cael trafferth fforddio’r dillad sydd eu hangen arnyn nhw, a bod 85% yn methu fforddio nwyddau glanhau.

Dydy 75% yn methu fforddio’u meddyginiaeth, ac mae 95% yn cael trafferth talu i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Yn ôl yr adroddiad Surviving in Poverty: A report documenting life on asylum support, dywedodd 83% o’r ymatebwyr nad ydy taliadau i gefnogi ceiswyr lloches yn ddigon i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn costau byw.

‘Caethiwo mewn ansicrwydd ariannol’

Mae’r elusen Asylum Matters yn galw ar y Swyddfa Gartref i gynyddu’r taliadau sydd ar gael i geiswyr lloches, ynghyd â sicrhau bod eu gwerth yn adlewyrchu profiadau ceiswyr lloches.

Dylai ceiswyr lloches gael teithio am ddim ar fysiau yng Nghymru, fel sydd eisoes yn digwydd yn yr Alban, yn ôl yr elusen.

“Mae’r lefelau isel o gefnogaeth yn golygu fod pobol sy’n ceisio lloches yn cael eu caethiwo mewn ansicrwydd ariannol diddiwedd,” meddai Emma Birks o elusen Asylum Matters.

“Yn ein hadroddiad, dywedodd pobol wrthym ni fod rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau poenus, a bod rhaid aberthu un peth angenrheidiol am y llall.

“Rydyn ni’n galw ar y llywodraeth i gynyddu cyfraddau’r gefnogaeth i geiswyr lloches er mwyn caniatáu i bobol a’u teuluoedd gwrdd ag anghenion byw sylfaenol.”

Daw’r adroddiad wrth i wleidyddion feirniadu’r Swyddfa Gartref am gyflwyno polisi fisa teuluol “creulon” heb asesu effaith y cynllun.

Dim ond pobol sy’n ennill o leiaf £38,700 fydd yn cael dod ag aelodau’r teulu i fyw gyda nhw, pan fydd y polisi’n dod i rym yn y gwanwyn.

£18,600 yw’r trothwy ar hyn o bryd.

Gallai’r polisi orfodi rhai teuluoedd i fyw ar wahân oddi wrth ei gilydd, neu adael y Deyrnas Unedig yn gyfangwbl.

Mae Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, wedi cael gwybod gan weinidogion yn San Steffan na chafodd yr asesiad ei gynnal cyn codi trothwy incwm y fisa teuluol – newidiadau gafodd eu cyhoeddi gan Ysgrifennydd Cartref San Steffan ar Ragfyr 4.