Bydd cynghorau Cymru’n derbyn mwy o gyllid y flwyddyn nesaf.
Bydd y cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn cynyddu 3.1% ar sail tebyg-at-ei-debyg, o gymharu â’r flwyddyn bresennol.
Bydd pob awdurdod lleol yn cael o leiaf 2% yn fwy o gyllid.
Bydd Llywodraeth Cymru’n darparu Grant Cymorth Refeniw gwerth £5.7bn, bydd yn helpu i ariannu ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol, casglu sbwriel ac ailgylch, a gwasanaethau eraill.
Dywed Llywodraeth Cymru fod y setliad yn “adlewyrchu ymrwymiad i warchod y gwasanaethau rydym oll yn dibynnu arnyn nhw bob dydd”, a bod hynny’n golygu eu bod nhw wedi gwneud “penderfyniadau anodd i ailddylunio cynlluniau gwario mewn modd radical i ganolbwyntio arian ar y fath wasanaethau”.
Pecyn cymorth
Cafodd pecyn cymorth cyfraddau annomestig ei gyhoeddi ddoe (dydd Mawrth, Rhagfyr 19) fel rhan o Gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.
Yn rhan o’r pecyn roedd ariannu’r cap o 5% ar y cynnydd yn y lluosogydd cyfraddau annomestig ar gyfer 2024-25.
Mae hyn ar gost flynyddol o £18m, a’r nod yw cynnig cymorth ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch.
‘Sefyllfa ariannol anodd eithriadol’
“Mewn sefyllfa ariannol eithriadol o anodd, rydyn ni wedi ailsiapio ein cynlluniau gwario fel y gallwn ni warchod y gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen craidd sy’n cael eu darparu gan awdurdodau lleol, megis ysgolion a gofal cymdeithasol,” meddai Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Cymru.
“Fel yr eglurais i ddoe, dydy ein setliad ariannu yn ei gyfanrwydd ddim yn ddigonol i ateb yr holl bwysau.
“Mae hyn wedi golygu gwneud penderfyniadau anodd mewn llefydd eraill yn y gyllideb i anrhydeddu ein hymrwymiad i gynghorau y llynedd o gynnydd o 3.1% yn eu cyllid ar gyfer y flwyddyn nesaf.
“Dw i’n gwerthfawrogi’r pwysau mae llywodraeth leol yn ei wynebu, ac yn cydnabod fod y galw am wasanaethau, ynghyd â chyfraddau chwyddiant uchel iawn yn ddiweddar, yn golygu y bydd angen o hyd i lywodraeth leol wneud penderfyniadau anodd ynghylch gwasanaethau, effeithlonrwydd a threth y cyngor wrth osod eu cyllidebau.
“Byddwn ni’n parhau i gydweithio’n agos i wynebu’r heriau hyn ar y cyd, ac yn ymdrechu i wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd gennym ni, er mwyn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.”
Mae ymgynghoriad wedi dechrau heddiw, ac fe fydd yn para chwe wythnos gan ddod i ben ar Ionawr 31.