Mae’r Swyddfa Gartref dan y lach am gyflwyno polisi fisa teuluol “creulon” heb gynnal asesiad o effaith y cynllun.
Mae Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, wedi cael gwybod gan weinidogion yn San Steffan na chafodd yr asesiad ei gynnal cyn codi trothwy incwm y fisa teuluol.
Cafodd y newidiadau eu cyhoeddi gan James Cleverly, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, ar Ragfyr 4.
Mae’r trothwy’n ymwneud â byw â phartneriaid o dramor yn y Deyrnas Unedig heb gynnal asesiad o’r effaith.
Yn ôl Hywel Williams, sydd wedi cael gwybod drwy Gwestiwn Seneddol Ysgrifenedig, mae’r Swyddfa Gartref yn bwriadu cynnal asesiad effaith maes o law, ond mae’n dweud bod diffyg asesiad hyd yn hyn yn dangos bod y cyhoeddiad yn “arf wleidyddol” gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a bod y rhai sydd wedi’u heffeithio wedi cael eu “diystyru”.
Y polisi
Yn ôl Hywel Williams, bydd miloedd o deuluoedd ag un partner sy’n ddinesydd Prydeinig ac un yn ddinesydd tramor yn cael eu heffeithio o’r gwanwyn.
Dim ond pobol sy’n ennill o leiaf £38,700 fydd yn cael dod ag aelodau’r teulu i fyw gyda nhw.
£18,600 yw’r trothwy ar hyn o bryd.
Gallai’r polisi orfodi rhai teuluoedd i fyw ar wahân oddi wrth ei gilydd, neu adael y Deyrnas Unedig yn gyfangwbl.
Codi cwestiynau
Mae Hywel Williams wedi ysgrifennu at y Swyddfa Gartref, ar ôl gofyn cwestiwn ar lafar yn San Steffan ar Ragfyr 6.
Yn ei gwestiwn, fe wnaeth e dynnu sylw at achos Daniel Griffith, un o’i etholwyr, sy’n bwriadu priodi ei bartner o Frasil y flwyddyn nesaf, cyn iddyn nhw ymgartrefu yng Nghymru.
Fe wnaeth Aelod Seneddol Arfon holi Fay Jones, yr Is-Ysgrifennydd Seneddol, pam fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn disgwyl i unigolion ar incwm isel ddewis rhwng eu partner a’u gwlad, tra nad yw’n effeithio ar bobol sy’n ennill cyflog uwch.
Wnaeth Fay Jones ddim ateb y cwestiwn, gan ddweud mai polisïau Llafur a Phlaid Cymru sy’n “anfantais” i bobol yng Nghymru.
“Mae etholwyr wedi ysgrifennu ata i, wedi’u llwytho â phryder y bydd penderfyniad mympwyol gafodd ei wneud yn Whitehall yn difetha’u cynlluniau bywyd,” meddai Hywel Williams.
“Mae’r Swyddfa Gartref bellach wedi cadarnhau eu bod nhw wedi cyhoeddi’r polisi creulon hwn, fydd yn gwahanu teuluoedd, heb drafferthu hyd yn oed i asesu faint o bobol y bydd yn eu heffeithio.
“Roedd y cyhoeddiad hwn gafodd ei ruthro yn offeryn gwleidyddol gan y Torïaid i geisio ymddangos yn gadarn ar fewnfudo – gan ddiystyru’r rhai sydd wedi’u heffeithio fel difrod ystlysol.
“O ystyried bod miloedd o bobol wedi gohirio’u bywydau yn dilyn y cyhoeddiad hwn yn gynharach y mis yma, dw i’n annog yr Ysgrifennydd Cartref i dynnu ei gyhoeddiad yn ôl hyd nes bod asesiad effaith wedi’i gwblhau.
“Ddylai pobol ddim cael eu cosbi am garu rhywun â dinasyddiaeth wahanol.
“Y tu hwnt i’w greulondeb, mae diffyg synnwyr economaidd yn y polisi hwn.
“Ar y cyfan, mae’r unigolion ifainc hyn yn ymuno â’u partneriaid, yn awyddus i gyfrannu at gymdeithas ar ôl cyrraedd.
“Rhaid i James Cleverly ailystyried ar frys.”