Mae Cymdeithas yr Iaith yn rhybuddio bod angen buddsoddiad digonol mewn Addysg a’r Gymraeg, wrth ymateb i Gyllideb Ddrafft 2024-25.

Mae’r Gwasanaeth Iechyd, ysgolion a gofal cymdeithasol ymhlith y materion sy’n cael eu blaenoriaethu yng Nghyllideb ddrafft 2024-25 Cymru.

Fodd bynnag, bydd trethi busnes siopau, tafarndai a bwytai yn cynyddu er mwyn rhoi mwy o arian i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys toriadau i wariant cyhoeddus a buddsoddiadau yng nghefn gwlad.

‘Angen buddsoddiad nid toriad’

“Mae’r cyhoeddiad y bydd £95m o doriad i addysg yn siomedig iawn ac yn anghyson gyda chynlluniau’r Llywodraeth,” meddai Siân Howys ar ran Cymdeithas yr Iaith.

“Wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i gyflwyno Bil Addysg Gymraeg i’r Senedd yn y flwyddyn newydd gyda’r nod o sicrhau addysg Gymraeg i bawb, mae angen buddsoddiad nid toriad mewn gwariant yn y maes allweddol hwn.

“Mae hi’n siom y bydd toriad o £3.2m i fwrsarïau cymhelliant ôl-raddedig ar gyfer myfyrwyr Meistr ôl-raddedig sy’n byw yng Nghymru, a thoriad o £3.5m o gyllid sy’n gysylltiedig â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Daw’r toriadau yma yn sgîl tanfuddsoddiad hanesyddol mewn addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys prentisiaethau.”

Toriadau mewn meysydd eraill yn effeithio’r Gymraeg

Mae’r Gymdeithas hefyd yn pwysleisio effaith pob maes gwariant ar y Gymraeg.

“Mae amaeth yn ddiwydiant allweddol o ran y Gymraeg ac mae canran uchel o’i siaradwyr yn byw mewn cadarnleoedd Cymraeg o fewn ardaloedd gwledig ac yn ddibynnol ar y sector amaeth am fywoliaeth,” meddai Siân Howys.

“Byddai toriad o 10% mewn termau real yn effeithio ymhellach ar hyfywedd y cymunedau Cymraeg hyn.

“Mae pobol ifanc yn cael eu colli o’n cymunedau fel ag y mae, oherwydd prisiau cynyddol tai i’w prynu a’u rhentu.

“Bydd toriad i’r diwydiant yn ei gwneud yn fwy anodd byth i bobol allu aros i fyw a gweithio yn lleolgwledig.

“Ymhellach, wrth gynyddu gwariant ar gyfer y GIG ac Awdurdodau Lleol, mae angen ymdrechion o’r newydd i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei phrif-ffrydio mewn gwasanaethau cyhoeddus.

“Mae disgwyliad ar wasanaethau cyhoeddus i ddefnyddio’r Gymraeg a datblygu gweithluoedd Cymraeg ond mae angen sicrhau bod hawliau a safonau iaith yn cael eu gweithredu yn effeithiol.

“Mae angen cryfhau yn benodol gweithrediad Strategaeth y sector Iechyd a Gofal, Mwy na Geiriau, ynghyd â Safonau Iaith y cyrff cyhoeddus.”