Mae’r Gyllideb Ddrafft gafodd ei chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 19) yn “ddigon i’ch sobri”, yn ôl Oxfam Cymru.
Mae’r Gwasanaeth Iechyd, ysgolion a gofal cymdeithasol ymhlith y materion sy’n cael eu blaenoriaethu yng Nghyllideb ddrafft 2024-25 Cymru.
Fodd bynnag, bydd trethi busnes siopau, tafarndai a bwytai yn cynyddu er mwyn rhoi mwy o arian i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys toriadau i wariant cyhoeddus a buddsoddiadau yng nghefn gwlad.
‘Rhoi mwy fyth o bwysau ar bobol’
“Bydd y Gyllideb Ddrafft hon, sy’n ddigon i’ch sobri, yn rhoi mwy fyth o bwysau ar bobol ledled Cymru sydd eisoes wedi’u gwthio i’r dibyn gan y cynnydd mewn costau byw,” meddai Sarah Rees, Pennaeth Oxfam Cymru.
“Rhaid i Brif Weinidog nesaf Cymru roi blaenoriaeth fawr i fynd i’r afael â chyfradd tlodi gywilyddus ac ystyfnig o uchel y wlad, gan ategu’r genhadaeth hollbwysig hon â strategaeth feiddgar, gynhwysfawr a rhwymol sy’n nodi targedau ac amserlenni clir.
“Nawr yw’r amser i ddechrau adeiladu’r Gymru decach, wyrddach, fwy gofalgar y mae angen i bob un ohonom – a chenedlaethau’r dyfodol – ei gweld.”
‘Annerbyniol’ bod plant yn talu’r pris
“Rydym yn deall bod cyllidebau’n dynn a bod yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd ond gyda chymaint o deuluoedd yn cael trafferth fforddio pethau sylfaenol fel bwyd, dillad ac i dalu eu biliau, ni ddylai plant dalu’r pris am hynny a wynebu sefyllfa o fynd i’r gwely mewn cartref sydd heb ei wresogi neu heb bryd o fwyd poeth yn eu boliau,” meddai Melanie Simmonds, Pennaeth Achub y Plant Cymru.
“Yn syml, mae’n annerbyniol ac yn groes i’w hawliau sylfaenol.
“Ac rydym i gyd yn gwybod bod canlyniad hirdymor tlodi yn mynd i effeithio mwy ar wariant cyhoeddus os na chymerir camau ar fyrder.
“Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif am fynd i’r afael â thlodi plant mae’n rhaid i hyn gael ei adlewyrchu yn y Strategaeth Tlodi Plant sydd ar fin ei gyhoeddi ynghyd â thargedau clir a chynllun cyflawni wedi’i ariannu.
“Rhaid i hyn hefyd fod yn flaenoriaeth i’r Prif Weinidog nesaf wrth ddechrau ar ei rôl newydd yn y gwanwyn.”