Mae grŵp CAMRA, yr ymgyrch i gynnal cwrw casgen, yn rhybuddio y gallai lleihau cymorth gyda threthi busnes arwain at golli mwy o dafarndai fel canolfannau cymunedol.

Daw’r sylwadau wrth iddyn nhw ymateb i Gyllideb ddrafft 2024-25 Llywodraeth Cymru, sy’n gweld gostyngiad mewn cymorth gydag ardrethi busnes ar gyfer tafarndai a busnesau lletygarwch eraill – o 75% i 40% o fis Ebrill.

Dywed Chris Charters ar ran CAMRA ei fod wedi’i siomi o weld y cymorth ar gyfer tafarndai, clybiau cymdeithasol a bragdai’n cael ei dorri, ac y bydd yn cael effaith ddifrifol ar fywyd cymdeithasol pobol.

Dywed y dylai’r gostyngiad ar drethi aros yr un fath â Lloegr.

‘Pobol leol wrth galon bywyd cymunedol’

“Bydd tafarnwyr yn siomedig o weld cefnogaeth i filiau ardrethi busnes ar gyfer tafarndai, clybiau cymdeithasol a bragdai yn cael ei dorri – er gwaethaf arian gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gadw’r gostyngiad ar 75%,” meddai Chris Charters.

“Mae ein pobol leol wrth galon bywyd cymunedol ledled Cymru, gan ddod â chymunedau at ei gilydd, helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd a darparu man cymdeithasol diogel i fwynhau diod gyda ffrindiau a theulu.

“Maen nhw’n haeddu cymorth fel y gallan nhw oroesi a ffynnu yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.

“Dyna pam dw i’n annog Llywodraeth Cymru i feddwl eto a chadw’r gostyngiad ardrethi busnes ar 75% fel y mae yn Lloegr.

“Ar adeg pan fo cwsmeriaid yn tynhau eu gwregysau, a busnesau yn mynd i’r afael â chostau cynyddol, mae dirfawr angen y cymorth hwn os ydym am osgoi colli mwy o dafarndai, clybiau a bragdai er daioni i gymunedau ledled y wlad.”