Mae taith Senedd Ewrop i ganfod mwy am system drochi’r Gatalaneg mewn ysgolion wedi cael ei beirniadu’n hallt.
Yn ôl Meritxell Serret, Gweinidog Gweithredu Tramor Catalwnia, mae’r ymdrechion gan asgell dde Sbaen yn “artiffisial a rhagfarnllyd”.
Dywed fod gan y pwyllgor perthnasol 66 o aelodau, ond mai deuddeg yn unig sydd wedi teithio i Gatalwnia, a’r rheiny’n cynrychioli Plaid y Bobol, Vox a Renew.
Mae’n dweud bod “pobol flaengar Ewrop wedi gwrthod cymryd rhan”, ac mai unig ganlyniad y daith fydd “tanio dadl hunanfoddhaus a gwleidyddol nad yw’n berthnasol i Ewrop”.
Y system drochi
Dim ond tua 80 o gwynion sydd wedi bod am y system drochi Gatalaneg, yn ôl Meritxell Serret, “o gymharu â 27m o fyfyrwyr sydd wedi’u cofrestru”.
Mae’r daith wedi’i galw’n “ffars” gan lefarydd ar ran prif undeb athrawon Catalwnia, sy’n mynnu bod Aelodau o Senedd Ewrop wedi teithio â “gwers osodedig” a bod y system drochi’n “andwyol i addysg”.
Mae’r ANC, Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia, hefyd wedi beirniadu’r ffaith fod y system drochi’n cael ei defnyddio fel “offeryn” gan bwyllgor deisebau Senedd Ewrop, gan ddweud bod y daith yn “gwahaniaethu yn erbyn hawliau ieithyddol y lleiafrif Catalaneg”.
Ond mae Plaid y Bobol wedi amddiffyn y daith, gan ddadlau bod yna “broblem” o fewn y system addysg o edrych ar ganlyniadau adroddiad PISA, sy’n gosod disgyblion Catalaneg yn is na chyfartaledd Sbaen ar gyfer y tri maes sy’n cael eu mesur.
Mae’r Cenhedloedd Unedig hefyd wedi mynegi pryderon am y penderfyniad i gyfyngu ar y defnydd o Gatalaneg mewn ysgolion, ac maen nhw wedi amddiffyn y system drochi.