Mae’r Gwasanaeth Iechyd, ysgolion a gofal cymdeithasol ymhlith y materion sy’n cael eu blaenoriaethu yng Nghyllideb ddrafft 2024-25 Cymru.

Fodd bynnag, bydd trethi busnes siopau, tafarndai a bwytai yn cynyddu er mwyn rhoi mwy o arian i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys toriadau i wariant cyhoeddus a buddsoddiadau yng nghefn gwlad.

Bydd £450m ychwanegol ar gael i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, er bod y cynnydd hwnnw’n is na chwyddiant, a bydd setliad ariannol llywodraethau lleol yn cynyddu 3.1%.

Mae Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid Cymru, yn rhybuddio bod Llywodraeth Cymru wedi wynebu’r “dewisiadau mwyaf poenus o ran cyllideb Cymru ers dechrau datganoli” wrth ei llunio.

Y Gyllideb ddrafft

Bydd cyfraddau rhyddhad i dafarndai, siopau a bwytai yn gostwng o 75% i 40% dan y cynllun newydd.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud na fyddai’r gostyngiad, ddaeth i rym yn ystod y pandemig, yn “parhau am byth”.

Bydd Cronfa Paratoi at y Dyfodol, sy’n gronfa newydd gwerth £20m, yn cael ei chyflwyno yn gynnar yn 2024-25 i fusnesau.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried a oes angen codi taliadau am rai gwasanaethau, fel gofal deintyddol dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ffioedd dysgu prifysgolion a gofal cartref er mwyn codi arian ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.

Mae’r setliad craidd llywodraeth leol, sy’n cynyddu 3.1%, yn mynd at ariannu gwasanaethau fel ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol, casglu biniau a chyfleusterau hamdden.

Mae’r gyllideb hefyd yn cynnwys darparu cymorth i bobol sy’n cael eu taro waethaf gan yr argyfwng costau byw.

Yn rhan o’r cymorth yn erbyn yr argyfwng costau byw, bydd y Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn helpu preswylwyr.

Cafodd manylion y Gyllideb, sy’n werth dros £22bn, eu cyhoeddi yn y Senedd brynhawn Mawrth (Rhagfyr 19), ac mae’n nodi y bydd adran y Llywodraeth sy’n ymdrin â thrafnidiaeth, tai a newid hinsawdd hefyd yn dioddef toriadau sylweddol.

‘Anodd iawn’

Dywed Rebecca Evans eu bod nhw wedi gorfod gwneud penderfyniadau “anodd iawn” i ail-ddylunio eu cynlluniau gwario “yn sylweddol”.

“Ar ôl tair blynedd ar ddeg o gyni, cytundeb Brexit diffygiol a’r argyfwng costau byw presennol, dyma’r sefyllfa ariannol anoddaf i Gymru ei hwynebu ers dechrau datganoli,” meddai.

“Dydy ein setliad ariannu, sy’n dod yn bennaf gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ddim yn ddigon yn sgil y pwysau eithriadol sy’n wynebu Cymru.

“Rydyn ni wedi gorfod gwneud y dewisiadau mwyaf cyfyng a phoenus o ran y gyllideb ers dechrau datganoli.

“Rydyn ni wedi ail-lunio cynlluniau gwario adrannau fel y gallwn fuddsoddi mwy yn y Gwasanaeth Iechyd a diogelu cyllid craidd llywodraeth leol ar gyfer ysgolion, gofal cymdeithasol a’r gwasanaethau eraill rydyn ni’n dibynnu arnyn nhw bob dydd.

“Dydy Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim wedi rhoi i Gymru setliad ariannu sy’n cydnabod effaith chwyddiant, ond rydyn ni wedi gwneud newidiadau i’n cynlluniau gwario ac wedi targedu buddsoddiad tuag at y gwasanaethau cyhoeddus sydd bwysicaf inni gyd.”

‘Cymru’n aros yn ei hunfan’

Wrth ymateb, dywed Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, ei bod hi’n pryderu nad oes sôn am gymunedau gwledig yn y Gyllideb ddrafft.

“Does yna ddim byd newydd yn y Gyllideb, fydd yn golygu fod Cymru’n aros yn ei hunfan a ddim yn symud ymlaen,” meddai.

“Dw i’n croesawu’r cyllid ychwanegol i gyllideb y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a llywodraeth leol.

“Ond mae yna rannau mawr o Gymru’n cael eu gadael ar ôl gyda’r gyllideb hon, yn enwedig y Gymru wledig.

“Rydyn ni angen mwy o fuddsoddi yn ein hardaloedd gwledig a mwy o gefnogaeth i’n ffermwyr.”

Ychwanega mai’r Blaid Geidwadol, sydd mewn grym yn San Steffan, sy’n bennaf gyfrifol am y sefyllfa economaidd.

‘Wedi rhoi’r gorau i drio’

Dywed y Ceidwadwyr Cymreig fod yna gymaint o fai ar Blaid Cymru ag sydd ar y Blaid Lafur am y toriadau mewn cymunedau cefn gwlad.

“Mae Gweinidogion Llafur wedi rhedeg Cymru am 24 mlynedd, gan fethu diwygio gwasanaethau cyhoeddus a chyflawni dros bobol Cymru; mae rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd yn hirach nag erioed, gyda dros 26,000 o bobol yn aros ers dwy flynedd neu fwy am driniaeth,” meddai llefarydd.

“Drwy gwtogi cyllideb prentisiaethau a rhoi cynnig cyfraddau busnes llai hael nag sydd yn Lloegr, mae Llafur a Phlaid Cymru wedi dangos eu bod nhw wedi rhoi’r gorau i drio tyfu’r economi.”

‘Angen bargen deg’

Mae’r toriadau yn ganlyniad 13 mlynedd o “gamreolaeth” gan y Ceidwadwyr yn Llundain, yn ôl Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.

“Mae Cymru angen bargen deg ac mae hi’n amlwg na chaiff y wlad un dan y llywodraeth Geidwadol bresennol,” meddai.

“Bydd gweithwyr yn poeni am effaith y toriadau hyn arnyn nhw, eu gwasanaethau a’r effaith ehangach ar yr economi.”

‘Anghynaliadwy’

Mae Plaid Cymru hefyd wedi beirniadu amseru’r Gyllideb, sydd wedi’i chyhoeddi ar adeg pan nad yw Aelodau’r Senedd yn y Siambr i allu craffu arni.