Mae Cyngor Conwy, sy’n wynebu heriau ariannol, yn talu bron i £6.5m mewn costau cludiant o’r cartref i’r ysgol bob blwyddyn, ac mae’n bosib y gallen nhw geisio torri tacsis ar gyfer rhai plant – gan gynnwys siaradwyr Cymraeg a’r rhai sydd ag anghenion arbennig.

Mae’r Cyngor yn paratoi holiadur fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus i fesur lle gall toriadau gael eu gwneud pe baen nhw’n newid eu polisi cludiant o’r cartref i’r ysgol.

Mae gan Gonwy nifer o rwymedigaethau statudol yn nhermau darparu cludiant i’r ysgol ac yn ôl, ond mae rhai ohonyn nhw’n ddewisol.

Bydd yr holiadur yn cynnwys naw cwestiwn, fydd yn gofyn i’r cyhoedd ym mha sefyllfaoedd nad ydyn nhw’n statudol ddylai plant dderbyn cludiant i’r ysgol ac yn ôl gan ddefnyddio arian cyhoeddus.

Byddan nhw’n cynnig sefyllfaoedd, ac yn gofyn a ddylid cynnig cludiant o’r cartref i’r ysgol o dan y fath amgylchiadau.

Yn ogystal â chael eu holi am gludiant i sefydliadau Cymraeg, mae’r holiadur hefyd yn gofyn a ddylai plant ag anghenion ychwanegol a rhai cyflyrau iechyd gael cymorth gyda’u cludiant.

Mae cwestiwn arall yn gofyn a ddylai rhieni plentyn â “gorbryder difrifol a ffobia mae tystiolaeth feddygol ar ei gyfer” gael cymorth.

Bydd cwestiynau eraill yn gofyn am farn pobol ynghylch a ddylai plant sydd â rhieni sydd wedi gwahanu gael cludiant am ddim o’r ddau gyfeiriad, yn ogystal â disgyblion o gefndiroedd Sipsiwn a Roma, disgyblion Chweched Dosbarth a phlant sy’n teithio i ysgolion crefyddol.

Dadl

Mae disgwyl i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Addysg a Sgiliau drafod y mater heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 19) yng nghyfarfod Bodlondeb, lle bydd cynghorwyr yn trafod yr holiadur arfaethedig.

Dywed y Cyngor fod cludiant lleol o’r cartref i’r ysgol yn un o’r costau sy’n tyfu gyflymaf yn y gyllideb flynyddol, ac yn ôl yr adroddiad mae’r bil blynyddol wedi cynyddu £2m ers 2018-19.

Mae Conwy yn honni bod cost cludiant o’r cartref i’r ysgol wedi cynyddu yn sgil pris tanwydd, cydymffurfio a chostau teiars, ac mae’r Cyngor yn dweud bod diffyg cystadleuaeth ar gyfer prosesau tendr yn bryder.

Mae’r awdurdod yn wynebu twll du gwerth £24.5m y flwyddyn nesaf, ac mae disgwyl iddyn nhw orwario gan nifer o filiynau o bunnoedd yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.

Daw’r toriadau ar ôl i’r awdurdod gynyddu treth y cyngor gan 9.9%, y cynnydd mwyaf yng Nghymru, gan dorri cyllidebau gwasanaethau gan 10% – gydag ysgolion hyd yn oed yn gorfod gwneud toriadau o 5% – ac mae rhagfynegiad y bydd rhagor o doriadau i ddod y flwyddyn nesaf.