Mae newidiadau i wasanaethau bws yn ardal y Bala yn “warthus”, yn ôl cynghorwyr lleol.

Dydy’r bws T3 rhwng y Bermo a Wrecsam ddim yn stopio ym mhentrefi Llanuwchllyn na Llandderfel ger y Bala bellach, nac yn Llandrillo na Chynwyd yn Nyffryn Dyfrdwy.

Cafodd rhwystredigaethau ynglŷn â “diffyg ymgynghori ystyrlon gyda chymunedau” am y newidiadau eu codi gyda Thrafnidiaeth Cymru mewn cyfarfod diweddar gan Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd.

Mae’r newid yn cael effaith ar bobol sydd eisiau mynd i’w gwaith neu i’r ysgol, ac yn achosi anghyfleustra i deithwyr hŷn, meddai gwleidyddion.

“Mae’r ffaith fod llwybr taith bws y T3 wedi ei ddileu, er y gwrthwynebiad clir gan drigolion Llandderfel, a’r ardaloedd cyfagos, yn warthus,” meddai Elwyn Edwards, cynghorydd sir Plaid Cymru ym mhentref Llandderfel.

“Mae nifer o drigolion mewn ardaloedd gwledig fel hyn yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i fynd i’r gwaith, i siopa ac i gymdeithasu.

“Mae dileu’r llwybr bws yn golygu mai’r bobol fwyaf bregus sy’n dioddef os na fydd y penderfyniad yma’n cael ei wrthdroi.

“A chyda’r llywodraeth yn pwyso ar bawb i wneud eu rhan er mwyn diogelu’r amgylchedd, pa obaith sydd na i gymunedau cefn gwlad heb wasanaeth cyhoeddus er mwyn teithio?

“Mae’r sefyllfa yn drasiedi i nifer o bobol.”

‘Rhwystrau ychwanegol’

Bu Mabon ap Gwynfor yn cwrdd ag uwch swyddogion Trafnidiaeth Cymru am y mater

Fe wnaeth Elwyn Edwards, ynghyd â chynghorwyr sy’n cynrychioli ardaloedd Llanuwchllyn, Corwen, Cynwyd a Llandrillo, a’r Brithdir, Llanfachreth, Ganllwyd a Llanelltyd ger Dolgellau, ymuno â chyfarfod Mabon ap Gwynfor gydag uwch swyddogion Trafnidiaeth Cymru i drafod y mater.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cydnabod fod eu gwaith yn cyfleu’r newidiadau wedi bod yn wael, meddai Mabon ap Gwynfor.

Bydd y corff yn ystyried eu pryderon ac yn meddwl sut i wella’r sefyllfa, ac mae disgwyl iddyn nhw roi ymateb ym mis Ionawr.

“Mae newidiadau diweddar i wasanaeth bws y T3 nid yn unig yn anghyfleustra i’m hetholwyr, ond mae’n golygu bod llawer o bobl bellach yn wynebu rhwystrau ychwanegol wrth geisio mynd yn ôl ac ymlaen i’r gwaith a mynychu’r ysgol neu’r coleg,” meddai’r Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd.

“Mae pobol leol yn ei chael hi’n fwyfwy anodd cyrraedd y meddyg neu wneud eu siopa.

“Rwy’n rhannu’r rhwystredigaeth gafodd ei lleisio’n lleol ynghylch y diffyg ymgynghori ystyrlon ac amserol ynghylch y newidiadau hyn.

“Rydym yn byw mewn cyfnod o gyfyngiadau ariannol difrifol gydag arian cyhoeddus yn cael ei wasgu’n barhaus.

“Nid yw Llywodraeth Dorïaidd y Deyrnas Unedig yn credu mewn gwasanaethau cyhoeddus ac mae’n methu’n llwyr â darparu cyllid digonol i gynnal gwasanaethau cyhoeddus hanfodol fel bysiau yn ein cymunedau gwledig.

“Mae Llywodraeth Cymru yn dargyfeirio’r gyfran fwyaf o arian trafnidiaeth gyhoeddus i gynnal gwasanaethau trên.

“Ond ni ellir aberthu trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig fel fy un i ar draul gwella un gwasanaeth dros y llall.

“Mae angen meddwl dyfeisgar arnom i gynnal yr holl wasanaethau hanfodol ar adeg o bwysau ariannol eithafol.”