Mae ymgyrch gymunedol i brynu marina yng Ngwynedd wedi codi bron i £120,000 mewn chwe wythnos.
Er bod yr ymgyrch chwe wythnos gychwynnol yn y Felinheli, sydd rhwng Bangor a Chaernarfon, wedi dod i ben, mae’r ymdrechion i godi arian yn parhau.
Cyflwynodd Menter Felinheli eu cais i brynu’r safle ym mis Medi, ac maen nhw’n disgwyl clywed a fu eu cais yn llwyddiannus.
Dydy’r marina ddim ar werth am bris penodol, ond yn hytrach, mae’r cynigion wedi cael eu rhoi mewn amlenni.
Rhwng cyfranddaliadau a gwneud ceisiadau am grantiau a benthyciadau, maen nhw’n gobeithio codi digon o arian i gyd-fynd â’u cynnig, pe bai’r derbynnydd yn dewis eu cynnig nhw.
“Roedden ni wedi gosod targed gwirfoddol i’n hunain o £300,000, dydyn ni heb gyrraedd hwnnw er ei fod o’n dod mewn ar bron i £1,000 y diwrnod,” meddai Deiniol Tegid o bwyllgor Menter Felinheli wrth golwg360.
“Dydy’r ffaith ein bod ni heb gyrraedd y targed gwirfoddol yna yn ystod yr ymgyrch chwe wythnos, dydy o ddim yn un peth na’r llall, achos fyddai £300,000 ddim yn ddigon i brynu’r marina, mae’r cynnig rydyn ni wedi’i roi mewn yn sylweddol fwy na hynna.”
Prif flaenoriaethau’r Fenter fyddai gwella’r marina, creu amgylchedd sefydlog i berchnogion cychod, staff a thenantiaid ac ail-fuddsoddi unrhyw elw yn ôl yn y gymuned.
“Yn ôl bob dim rydyn ni’n ei wybod, ac yn amlwg dydyn ni ddim yn gweithio i ddarlun llawn, mae gennym ni gynnig sy’n unigryw, ac sy’n cynnig rhywbeth sydd, nid yn unig yn diwallu anghenion y derbynnydd, ond yn diwallu anghenion y gymuned, y pentref a’r ardal ehangach.
“Y peth creiddiol sy’n rhaid i ni wneud i gychwyn ydy sicrhau swyddi’r bobol sy’n gweithio yno’n barod, pe bai yna gwmni arall yn llwyddiannus dydyn ni ddim yn gwybod be fyddai’n digwydd i hynny.”
Amlygu hanes y safle
Ar hyn o bryd, mae wyth o bobol yn gweithio yn y marina, ac mae’r Fenter hefyd yn awyddus i sicrhau cyllid cyhoeddus ychwanegol i wneud y mwyaf o’r ardal, ac amlygu treftadaeth y safle.
“Un o’r pethau sydd wedi dod yn amlwg yn ystod y misoedd diwethaf ydy’r elfen etifeddiaeth o’n cynnig ni,” meddai. Deiniol Tegid.
Datblygodd y Felinheli yn sgil y chwareli llechi, ac erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd llechi o Chwarel Dinorwig yn Llanberis yn cael eu hallforio i bedwar ban byd o’r porthladd.
“Mae gen ti Safle Treftadaeth y Byd yn Ninorwig yn Llanberis, lle mae yna gannoedd ar filoedd o ymwelwyr o bobol yn mynd bob blwyddyn, a phobol leol yn mynd i gysylltu efo’i hanes a dysgu mwy am eu hetifeddiaeth nhw,” meddai.
“Mae bob un llechen sydd wedi mynd o fan yno wedi mynd drwy Felinheli, drwy’r porthladd, i bedwar ban byd.
“Os fysa chdi’n mynd i’r marina heddiw does yna ddim un peth bach pitw i gysylltu’r ddau beth.
“Mae hwnna’n un peth fysa ni’n sicr eisiau edrych i weld be fedrwn ni wneud efo fo – nid yn unig o ran yr ochr etifeddiaeth, ond o ran yr ochr creu cyfoeth [a swyddi] hefyd.”
‘Cynnig beiddgar’
Cafodd Marina’r Felinheli ei adeiladu yn y 1980au, ond mae’r cwmni oedd yn berchen arno – y Marine and Property Group – bellach wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.
Ambell bosibilrwydd arall fyddai defnyddio’r doc sych yn y porthladd i greu swyddi a defnyddio’r gofod ger y marina er budd y gymuned.
“Mae yna lot fawr o wahanol bosibiliadau, a does yna’r un o’r rhain yn goncrit. Ond sicrhau dyfodol y swyddi sydd yno’n barod fyddai’r flaenoriaeth,” meddai Deiniol Tegid.
“Be’ sy’n ddifyr ydy bod yr ymgyrch fel ei bod hi wedi gwneud i bobol feddwl ynglŷn â be’ fedrwn ni wneud fel mentrau cymunedol.
“Mae yna 34 ohonyn nhw yng Ngwynedd ar y funud, yn rhedeg bob dim o dafarnau i gynlluniau hydro electrig, ond mae hwn yn gynnig beiddgar, unigryw.
“I brynu marina, does yna neb wedi mynd yna o’r blaen yng Nghymru na Lloegr – mae yna un yn yr Alban, mae’n debyg.”
‘Cyfle i gefnogi’
Ychwanega Gwyn Roberts, un o arweinwyr y prosiect, eu bod nhw’n “hynod ddiolchgar” am y gefnogaeth a’r haelioni hyd yn hyn.
“Daeth llawer o’r cyfraniadau o’r pentref, ond gwelwyd pobol yn buddsoddi ar hyd a lled Cymru, Lloegr, ac o wledydd tramor hefyd,” meddai.
“Ond er bod ein hymgyrch wedi dod i ben, mae yna gyfle o hyd i bobol brynu cyfranddaliadau gan gefnogi’r ymgais uchelgeisiol ac unigryw yma.
“Fe fyddwn yn parhau i werthu cyfranddaliadau nes bydd y derbynnydd wedi gwneud penderfyniad ar ddyfodol y safle.”