Mae gan Jeremy Miles “siawns dda” o ennill ras arweinyddol Llafur Cymru, yn ôl y sylwebydd gwleidyddol Gareth Hughes.

Cadarnhaodd Gweinidog Addysg a’r Gymraeg ddoe (dydd Llun, Rhagfyr 19), ei fod yn ymuno â’r ras i olynu Mark Drakeford.

Mae ganddo fe gefnogaeth sylweddol ymhlith Aelodau’r Senedd o fewn blaid ei hun.

Hyd yn hyn, Vaughan Gething yw’r unig un arall sydd wedi datgan yn swyddogol ei fod am sefyll.

Ymchwiliad Covid yn gwaethygu siawns Vaughan Gething

“Mae Jeremy Miles yn sefyll i’r canol chwith o’r Blaid Lafur, sydd yn fwy derbyniol i aelodau Plaid Lafur Cymru fyswn i’n credu,” meddai Gareth Hughes wrth golwg360.

“Felly byswn i’n credu fod ganddo siawns eithaf teg.”

Ond efallai y bydd y rhan wnaeth y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething ei chwarae yn ystod yr ymchwiliad Covid-19 yn ei roi ar y droed ôl, meddai.

“Y diffyg efo Vaughan Gething ydy’r ffaith ei fod o heb ddarllen ei bapurau pan oedd o’n rhoi ei dystiolaeth ar Covid.

“Dw i’n meddwl fod hynny wedi creu siom i lawer o bobol fydd yn pleidleisio.”

Bydd y bleidlais yn ddibynnol ar y newid all fod wedi digwydd o fewn y blaid yng Nghymru, meddai.

“Mae pethau’n newid ac mae’r Blaid Lafur yng Nghymru wedi newid dros y blynyddoedd.

“Ond mae Vaughan Gething, wrth gwrs, i’r canol dde o’r Blaid Lafur.

“Felly, os byddan nhw – yr aelodau fydd yn pleidleisio – o’r un garfan wnaeth bleidleisio dros Mark Drakeford, byswn i’n meddwl mai’r un canlyniad fydd hi, a rhywun o’r chwith fydd yn ei chael hi.

“Byswn i’n credu bod Vaughan Gething yn rywun sydd yn fwy tebygol o fod yng ngharfan Keir Starmer o’r Blaid Lafur nag y mae Jeremy Miles.”

Profiad Gething yn gymorth

O ran eu profiad, mae’r ddau sy’n sefyll yn eithaf cyfartal, yn ôl Gareth Hughes.

Ond mae profiad Vaughan Gething o fod yn Weindog Iechyd yn ei wthio ymlaen ychydig bach, meddai.

“Mae Vaughan Gething wedi bod yn weinidog am yn hirach na Miles, ond mae Miles wedi gwneud dwy swydd – Addysg a’r Gymraeg nawr, ac wedi bod yn Gwnsler Cyffredinol hefyd.

“Mae’r ddau ohonyn nhw yn dod o gefndir y gyfraith hefyd, felly mae yna debygrwydd yn y fan honno.

“Ond mae swydd y Gweinidog Iechyd yn goblyn o swydd anodd, ac mae Gething wedi gwneud hynny mewn amser caled, felly mae ganddo fo brofiad fyswn i’n dweud sydd efallai jest yn rhoi’r edge ar Miles.

“Ond dw i ddim yn meddwl y bydd yna lawer o ddewis rhwng y ddau ar sail profiad.

“Mae’n fwy tebyg i’r ras gael ei phenderfynu ar sut mae’r Blaid Lafur a’u haelodau yn teimlo – ydyn nhw yn dal i deimlo eu bod nhw ar chwith y blaid? Neu ydyn nhw i’r dde?”

Dydy Gareth Hughes ddim yn credu y bydd unrhyw aelod arall yn rhoi eu henw ymlaen i ymuno â’r ras, ond mae’n “biti” nad oes dynes yn ymgeisio, meddai.

“Yr unig un roeddwn i wedi meddwl fysa’n rhoi ei henw ymlaen oedd Eluned Morgan, ond mae hi wedi dweud nad ydy hi.

“Mae’n biti nad oes yna ferch yn rhoi ei henw ymlaen, i fod yn onest.

“Bysa’n dda i’r Blaid Lafur yng Nghymru tasan nhw’n cael merch yn eu harwain nhw rywdro neu’i gilydd.”

Jeremy Miles yn ymuno â ras arweinyddol Llafur Cymru

“Byddaf yn gosod gweledigaeth feiddgar, uchelgeisiol a chyffrous ar gyfer dyfodol Cymru,” meddai Gweinidog Addysg a’r Gymraeg

Mwyafrif o Aelodau Llafur o’r Senedd yn cefnogi Jeremy Miles i fod yn arweinydd

Dydy’r Gweinidog Addysg a’r Gymraeg ddim wedi cyflwyno’i enw’n ffurfiol i olynu Mark Drakeford hyd yn hyn

Sefyllfa “broblemus” Vaughan Gething wrth geisio dod yn arweinydd Llafur Cymru

Catrin Lewis

Mae wedi dal sawl swydd yng nghabinet Llafur Cymru ond mae cwestiynau a yw ei record o gyflawniad ddigon cryf

Eluned Morgan ddim am sefyll i arwain Llafur Cymru

Daw’r cyhoeddiad gan y Gweinidog Iechyd “ar ôl ystyried yn ofalus ac er mwyn rhoi terfyn ar unrhyw ddyfalu pellach”