Mae Jeremy Miles wedi cadarnhau ei fod yn sefyll i olynu Mark Drakeford yn ras arweinyddol Llafur Cymru.
Mae gan y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru gefnogaeth sylweddol gan Aelodau’r Senedd o fewn ei blaid ei hun er mwyn sefyll.
Hyd yn hyn, Vaughan Gething yw’r unig un arall sydd wedi datgan yn swyddogol ei fod e am sefyll.
‘Byth wedi dychmygu cynnig fy hun i arwain ein plaid a’n cenedl’
“Os byddaf yn meddwl yn ôl i pan oeddwn yn tyfu i fyny, yn pendroni am fy lle yn y byd fel dyn hoyw ifanc o deulu dosbarth gweithiol ym Mhontarddulais, fyddwn i byth wedi dychmygu un diwrnod y byddwn yn cynnig fy hun i arwain ein plaid a’n cenedl,” meddai Jeremy Miles.
“Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae aelodau’r blaid, o bob rhan o Gymru, cydweithwyr yn y Cabinet a’r Senedd, ASau, cynghorwyr, arglwyddi, undebwyr llafur, a llawer o rai eraill yn ein mudiad wedi mynegi eu cefnogaeth i mi arwain ein plaid.
“Rwy’n hynod ddiolchgar.
“Ac felly heddiw rwy’n cadarnhau y byddaf yn sefyll yn yr etholiad i ddod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru, ac i fod yn Brif Weinidog Cymru.
“Rwy’n benderfynol o adeiladu ar etifeddiaeth Mark a’i ymrwymiad diamheuol i wasanaeth cyhoeddus.
“Wrth inni edrych ymlaen at y chwarter canrif nesaf ar daith ddatganoli, rhaid inni osod ein golygon ar ddyfodol uchelgeisiol i Gymru, dan arweiniad Llafur Cymru.
“Mae ymosodiadau’r Torïaid ar wasanaethau cyhoeddus, cyni a’u camreoli o’n heconomi, yn golygu bod pethau wedi bod yn anhygoel o anodd i bobol ledled ein gwlad.
“Rydym yn wynebu sawl her o’n blaenau – ond rwy’n obeithiol am y dyfodol.
“Mae buddugoliaeth Llafur yn yr etholiad cyffredinol nesaf yn hollbwysig ar gyfer y dyfodol mwy cadarnhaol hwnnw.
“Gall Llywodraeth Lafur y DU dan arweiniad Keir Starmer, gan weithio gyda’n Llywodraeth Lafur Cymru, gyflawni cymaint mwy i Gymru.
“Gyda’n gilydd, byddwn yn dod â’r cylch o argyfyngau Torïaidd sydd wedi trechu cymaint i ben.
“Rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau buddugoliaeth i Lafur – mae arnom ddyled i’n gwlad.
“A pheidiwch ag unrhyw amheuaeth – bydd Llywodraeth Lafur Cymru yr wyf yn ei harwain, bob amser yn sefyll cornel Cymru.
“Byddaf yn gosod gweledigaeth feiddgar, uchelgeisiol a chyffrous ar gyfer dyfodol Cymru.
“Rwy’n gobeithio y byddwch yn ymuno â mi i wireddu’r weledigaeth honno.”