Mae Vaughan Gething yn wynebu sefyllfa “broblemus” wrth geisio dod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru, yn ôl y sylwebydd gwleidyddol yr Athro Richard Wyn Jones.

Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi ddoe (dydd Iau, Rhagfyr 14) ei fod yn cyflwyno’i enw i sefyll yn ras arweinyddol Llafur Cymru, yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog Mark Drakeford ei fod yn camu o’r neilltu ar ôl pum mlynedd wrth y llyw.

Daeth Vaughan Gething yn ail yn y ras arweinyddol yn 2018, gyda 30.8% o’r bleidlais derfynol.

Mae nifer o wleidyddion Llafur Cymru eisoes wedi datgan eu cefnogaeth iddo fe, gan gynnwys Ken Skates, Jane Bryant, Lynne Neagle, Nick Thomas-Symonds a Joyce Watson, ac felly mae’n debygol iawn y bydd yn llwyddo i ennill y nifer angenrheidiol o enwebiadau i gael sefyll yn y ras.

Cafodd ei benodi i nifer o swyddi uchel yng nghabinet Llywodraeth Lafur Cymru dros y blynyddoedd, gan gynnwys ei rôl bresennol a swydd y Gweinidog Iechyd yn ystod y pandemig Covid-19.

Mae’n dysgu Cymraeg, a phe bai’n cael ei ethol, fe fyddai’n Brif Weinidog du cyntaf Cymru.

Record ddigon cryf?

Yn ôl Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, bydd yn ddiddorol gweld sut fydd Vaughan Gething yn portreadu’r hyn mae e wedi’i wneud yn ystod ei gyfnod yn weinidog yn Llywodraeth Cymru.

Dywed ei bod yn anodd rhoi bys ar unrhyw beth penodol mae’r gweinidog wedi’i gyflawni, ac y gallai hynny fod yn “broblemus” iddo.

“Mae’n drawiadol ei fod o wedi bod mewn swyddi pwysig yn y llywodraeth – swydd iechyd yn ystod Covid a swydd yr Economi rŵan,” meddai wrth golwg360.

“O ran record Vaughan Gething, o safbwynt iechyd dw i’n meddwl, roedd Covid yn naturiol, a bod yn deg, yn gysgod dros bopeth.

“Ond dw i ddim yn gwybod yn union beth mae o wedi’i gyflawni yn ei swydd bresennol, a bydd hi’n ddiddorol clywed beth mae o’n honni ei fod o wedi’i gyflawni.”

Dywed fod digon o rethreg gan y Gweinidog, ond “ddim cymaint â hynny o sylwedd”.

“Dyna un o’r pethau diddorol am y ras yma – mae’r bobol rydyn ni’n eu disgwyl i gynnig eu hunain yn bobol sydd wedi dal swyddi o bwys yn Llywodraeth Cymru,” meddai.

“Felly, mae’n rhesymol disgwyl iddyn nhw redeg ar record o gyflawniad, ac ein bod ni’n gallu cymharu’r hyn mae gwahanol ymgeiswyr wedi’i wneud mewn swyddi o bwys.”

Ychwanega ei bod hi’n amhosib darogan beth fydd trywydd y ras, ond y bydd hi’n ddiddorol gweld a yw’r bobol mae disgwyl y byddan nhw’n cyflwyno’u henwau yn penderfynu gwneud hynny.

Ar hyn o bryd, mae Jeremy Miles, Hannah Blythyn ac Eluned Morgan ymysg y rheiny sydd yn debygol o gynnig eu henwau.