Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig “ar ochr anghywir hanes” wrth geisio atal pobol rhag cynnal boicot o gynnyrch o Israel, yn ôl un cwsmer sy’n cadw draw o siopau sy’n gwerthu nwyddau o’r wlad.

Dywed Selwyn Jones o Gaernarfon fod sefyllfa Israel a Phalesteina yn Gaza yn debyg i’r ffordd roedd pobol yn cael eu herlid yn Ne Affrica yng nghyfnod yr aparteid, ac y bydd cynnal boicot yn erbyn Israel i gefnogi Palesteina yn cael effaith ar y cwmnïau mawr.

Mae’n siomedig, meddai, fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ei gwneud yn anghyfreithlon i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus beidio â defnyddio cynnyrch o Israel.

“Mae yna sawl reswm am gynnal boicot,” meddai perchennog siop lyfrau Palas Print.

“Yn gyntaf, mae’n rhaid nodi bod y ffordd mae Israel yn ymdrin â’r Palestiniaid, heb sôn am yr hil-laddiad maen nhw’n gwneud, yn ymdebygu i’r hyn oedd yn cael ei wneud yn Ne Affrica, sef fod gan y Palestiniaid sy’n byw yn Israel ddim yr un hawliau â’r Israeliad.

“Does ganddyn nhw ddim yr un hawl o ran pleidleisio, does ganddyn nhw ddim yr un hawl i ddefnyddio’r ffyrdd mae’r Israeliad yn eu defnyddio.

“Hwnna oedd y man cychwyn.

“Yn ail, wrth gwrs, beth mae rhywun yn ei weld rŵan, efo’r hil laddiad sy’n digwydd yn Gaza ar hyn o bryd, ac ar y Lan Orllewinol yn y tir sydd wedi cael ei feddiannu gan Israel, ydy eu bod nhw’n cael eu gormesu, sydd yn ymdebygu i fel oedd pobol yn Ne Affrica yn cael eu herlid yn ystod y cyfnod aparteid.

“Rwy’n meddwl y dywedodd Nelson Mandela [cyn-arweinydd De Affrica] na fyddai pobol De Affrica yn rhydd nes bod pobol Palesteina hefyd yn rhydd.”

Y boicot

Yn ôl Selwyn Jones, nid yn unig mae boicot yn dangos cefnogaeth ond mae hefyd am gael cryn effaith ar y cwmnïau mawr.

“Mae boicot yn dangos ochr, i ryw raddau,” meddai wedyn.

“Mae o wedi gweithio.

“Yn gyntaf, mae sefyllfa ariannol Starbucks wedi cael ei heffeithio gan y boicot; maen nhw wedi colli arian eithaf sylweddol.

“Mae’r pwysau ar Puma wedi golygu eu bod nhw rŵan wedi penderfynu stopio noddi tîm pêl-droed Israel.

“Mae’r gweithredoedd yma’n cael effaith.

“Hefyd, yn bwysicach, pan fo rhywun yn byw ym Mhalesteina, byswn yn tybio eu bod nhw’n gweld bod y rhan fwyaf o’r byd â dim llawer o ots, neu’r rhan fwyaf o wledydd ddim ots, yn enwedig rŵan yn y Gorllewin.

“Mae pobol Palesteina yn gweld bod gweithredoedd bach gan bobol yn dangos cefnogaeth i’w hymgyrch nhw ar gyfer rhyddid.”

Llywodraeth Prydain

Yn ôl Selwyn Jones, nid yn unig mae’n siomedig fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud ei bod yn anghyfreithlon i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus beidio defnyddio cynnyrch Israel, ond maen nhw “ar ochr anghywir hanes” drwy atal pleidlais ar yr alwad am gadoediad yn Gaza yn y Cenhedloedd Unedig.

“Y broblem sylfaenol ar hyn o bryd yw fod Llywodraeth Prydain yn pasio deddfwriaeth sydd yn benodol yn dweud ei bod yn anghyfreithlon i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus beidio defnyddio cynnyrch Israel a boicotio,” meddai.

“Yn hynny o beth, allith rhywun ddim dibynnu ar Lywodraeth Prydain.

“Y diwrnod o’r blaen, roedd pleidlais yn y Cenhedloedd Unedig yn gyffredinol, a deg gwlad wnaeth bleidleisio yn erbyn galw am gadoediad yn Gaza. Deg gwlad allan o 150 o wledydd.

“Yn anffodus, mi wnaeth Prydain atal ei phleidlais.

“Yn anffodus, mae’n dangos bod Llywodraeth Prydain ar ochr anghywir hanes.”

Mae Selwyn Jones yn dweud bod y boicot yn mynd gam ymhellach na boicot ar gynnyrch Israel yn unig.

Mae hefyd yn cael ei gynnal yn erbyn banciau fel HSBC sy’n cefnogi cwmnïau sy’n gwerthu arfau i Israel, sy’n cael eu defnyddio yn yr hil-laddiad yn Gaza.

‘Y grym i newid pethau’

Un arall sy’n cymryd rhan yn y boicot yw Anna Jane Evans, cynhorydd Hendre Caernarfon, sydd hefyd yn cymharu’r boicot yn erbyn cynnyrch o Israel â’r boicot yn erbyn cynnyrch o Dde Affrica.

Fe wnaeth y boicot hwnnw wahaniaeth, meddai, gan ychwanegu bod gan bobol gyffredin y grym i newid sefyllfaoedd.

“Dw i ddim eisiau dim ceiniog o fy arian i’n mynd i gynnal beth sy’n digwydd yn Gaza, rŵan na beth sydd wedi bod yn digwydd ers 75 mlynedd yn nhiroedd y meddiant yn erbyn y Palestiniaid,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n un ffordd gennyf i gyfyngu ychydig bach a rheoli ychydig bach drwy beidio rhoi arian allai fynd i Lywodraeth Israel.

“Rwy’n meddwl y gwnaeth boicot newid sefyllfa De Affrica’n llwyr flynyddoedd yn nôl.

“Roedd pawb yn meddwl nad ydy’n bosib cael gwared ar aparteid, a gwnaeth pobol stopio prynu afalau Granny Smith ac ati a gwnaeth o newid pethau.

“Gwnaeth yr holl system newid, gwnaeth y wlad i gyd newid.

“Rydym yn teimlo weithiau fod gennym ni ddim grym; mae gennym rym, mae gennym i gyd ddewisiadau.

“Byswn i’n hoffi i bobol wybod fod gennym i gyd ddewis i’w wneud, ac mae eisiau bod yn ofalus pan ydym yn prynu pethau.”

Y cynnyrch

Ond pa gynnyrch sy’n dod o Israel, felly?

“Y pethau cyffredin o Israel ar silffoedd yr archfarchnadoedd ydy avocados, dates, tatws a peppers,” meddai.

“Ambell waith, maen nhw’n ciwt iawn efo peppers oherwydd bod nhw’n becynnu peppers un o bob lliw, ac mae un yn dod o Israel a dau yn dod o’r Iseldiroedd.

“Rwy’ wedi dod at bwynt, os bydd hynny’n digwydd yn y dyfodol, y bydda i’n agor y pecyn ac yn gadael yr un o Israel ac yn mynnu bo fi’n cael prynu’r ddau o’r Iseldiroedd.

“Dw i ddim am adael iddyn nhw wneud hynna.

“Mae eisiau i ni herio’r archfarchnadoedd i stopio prynu cynnyrch Israel.”