Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ategu eu hymrwymiad i godi premiwm treth gyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi.
Ers i’r awdurdod lleol gyflwyno’r premiwm y llynedd, mae nifer yr eiddo gwag hirdymor sy’n destun premiwm yn y sir wedi gostwng o 528 i 392.
Bydd eiddo sydd wedi’u nodi gan y Cyngor fel rhai fu’n wag ers 24 mis o Ebrill 1 yn destun premiwm treth gyngor o 150%.
Mae aelodau Cabinet y Cyngor hefyd wedi cytuno i gadarnhau’r polisi o gyflwyno premiwm o 100% ar gyfer ail gartrefi ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024-25.
Dod ag eiddo yn ôl i ddefnydd
“O ran y polisi hwn, ei holl bwrpas yw dod ag eiddo yn ôl i ddefnydd ar gyfer pobol yn y Fro sydd angen cartrefi,” meddai’r Cynghorydd Lis Burnett, arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, mewn cyfarfod heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 14).
“Mae gennym ni ddiffyg sylweddol yn argaeledd cartrefi ar gyfer pobol yn y Fro, ac felly mae hi ond yn iawn ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i annog… yr eiddo hynny i ddod yn ôl i ddefnydd ar gyfer pobol.
“Rydyn ni am barhau â’r polisi hwn.”
Ymgynghoriad cyhoeddus
Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus ei gynnal yn 2022 ar gynnig y Cyngor i gyflwyno premiwm treth gyngor.
O blith y 385 o ymatebion gafodd eu derbyn, doedd 56.36% ddim yn cefnogi unrhyw newid i’r polisi presennol, ac roedd 40.8% o blaid ardoll premiwm ar ryw lefel.
Cafodd perchnogion 930 o eiddo gafodd eu heffeithio’n uniongyrchol gan y cynigion eu gwahodd hefyd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, oedd wedi rhedeg rhwng Rhagfyr 5 y llynedd a Ionawr 6 eleni.
Y sefyllfa
O Ebrill 2023, cafodd premiwm o 100% ei gyflwyno ar eiddo fu’n wag ers o leiaf ddeuddeg mis.
Ar y pryd, yr awgrym oedd cynyddu’r premiwm hwn i 150% o Ebrill 1 y flwyddyn nesaf, ac eto i 200% o Ebrill 1, 2025.
Pan gafodd y polisi ei gyflwyno y llynedd, cafodd 402 o ail gartrefi eu nodi’n wreiddiol fel rhai oedd yn gymwys i fod yn destun premiwm.
Y ffigwr presennol yw 508, ond dywedodd y Cyngor eu bod nhw’n disgwyl i’r nifer ostwng, fel sydd wedi digwydd o ran eiddo gwag hirdymor.
Mewn adroddiad ar y premiwm treth gyngor, dywedodd y Cyngor fod y gostyngiad mewn cartrefi gwag, rhwng cytuno ar y polisi fis Mawrth eleni a nawr, o ganlyniad i’r eithriadau gafodd eu cyflwyno yn y rheoliadau a’r eiddo’n dod yn ôl i ddefnydd.
Mae’r eiddo sydd wedi’u heithrio o’r premiwm treth gyngor yn cynnwys y rhai lle mae myfyrwyr yn unig yn byw, pobol sydd ag anableddau dysgu difrifol, pobol dan 18 oed, ac aneddau lle mae perthnasau dibynnol yn byw.
Mae’r eiddo eraill sydd wedi’u heithrio’n cynnwys y rhai sydd wedi’u gadael yn wag gan rywun yn y carchar, rhywun sydd wedi symud er mwyn derbyn gofal personol yn yr ysbyty, neu rywun sydd wedi symud er mwyn darparu gofal personol.
Bydd y premiwm yn cael ei adolygu eto y flwyddyn nesaf, a bydd unrhyw newidiadau’n cael eu cyflwyno gerbron aelodau’r Cabinet a’r Cyngor.