Mae gweledigaeth Mark Drakeford wedi gwneud “cymaint o wahaniaeth” i ddatganoli dros chwarter canrif, yn ôl darlithydd gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Daw sylwadau Elin Royles ar ôl i arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru gyhoeddi ei fod yn camu o’i rôl ar ôl pum mlynedd wrth y llyw.
“Mae’r syniadau mae o wedi bod yn eu cynnig wedi bod yn rhai reit bellgyrhaeddol o bersbectif unoliaethol, ac yn rhoi cyfeiriad i’r Blaid Lafur ar draws y Deyrnas Gyfunol,” meddai wrth golwg360.
“Dw i’n meddwl bod rhai o’r prif uchafbwyntiau o ran y math o arweinyddiaeth wnaeth o ei gynnig wedi digwydd yn ystod cyfnod Covid.”
Meddwl yn hirdymor
Wedi iddo gyhoeddi ei fod yn camu o’r neilltu, fe wnaeth rhai o’i gyd-bleidwyr dalu teyrnged iddo ar X (Twitter gynt), gyda chanmoliaeth i’w duedd i feddwl am gynlluniau hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar ei boblogrwydd tymor byr.
Fodd bynnag, dywed Elin Royles fod y pwyslais ar yr hirdymor yn adlewyrchu strategaeth ehangach y Blaid Lafur hefyd.
“Dw i’n meddwl bod y pwyslais nid yn unig ar ddelio efo’r heriau byr dymor, ond er mwyn trio meddwl am sut i wella lles pobol,” meddai.
“Felly, ydy, mae hynny yn rhan o beth mae Mark Drakeford wedi bod yn ei wneud, ond mae’n rhan o’r weledigaeth ehangach o beth mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei weithredu.”
Vaughan Gething yn ‘arweinydd atebol’
Mae’r newyddion fod Mark Drakeford yn camu o’r neilltu wedi cychwyn ras i benodi arweinydd nesaf Llafur Cymru.
Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, eisoes wedi cyflwyno’i enw.
“Mae’n anodd gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd mewn unrhyw ras arweinyddol, fel rydyn ni wedi gweld ar lefel San Steffan, ond fyddai o ddim yn syndod o gwbl petai Vaughan Gething y cyntaf i leisio ei fod o eisiau ymgeisio,” meddai Elin Royles cyn y cyhoeddiad.
“Fo oedd yn ail tro diwethaf, ac mae wedi cael nifer o swyddi o fewn y Cabinet, ac felly mae o’n ymgeisydd atebol.”
Ychwanega ei bod hi’n bwysig sicrhau bod dewis eang ac amrywiol o ymgeiswyr.
“Rydyn ni hefyd wedi clywed am Jeremy Miles a phobol fel Eluned Morgan, Rebecca Evans, Hannah Blythyn, a phobol fel Mick Antoniw,” meddai.
“Felly, dw i’n meddwl y buasai’n iach iawn cael cystadleuaeth o nifer o leisiau gwahanol er mwyn i aelodau’r Blaid Lafur gael dewis rhyngddyn nhw.
“Mae’n bwysig bod yna ddewis, a bod yna fenywod yn rhan o’r dewis yna.”
Trywydd gwahanol?
Dywed Elin Royles y bydd hi’n ddiddorol gweld a fydd y berthynas rhwng Llafur Cymru a Llafur yn San Steffan yn newid pe bai’r blaid yn dod i rym ar lefel y Deyrnas Gyfunol yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Ychwanega y bydd yn “hynod ddiddorol” gweld hefyd a fydd y Blaid Lafur yng Nghymru’n mynd ar drywydd gwahanol o dan arweinydd newydd.
“Un o’r pethau mawr fydda i yn gwylio ydy sut y bydd y berthynas yna yn datblygu,” meddai.
“Ydyn ni’n mynd i weld Llafur Cymru yn cael yr un graddau o economi gan Lafur Prydain rydyn ni wedi ei weld hyd yn hyn, neu ydy’r arweinydd newydd yn mynd i wrando ac ymateb mwy i’r hyn mae’r Blaid Lafur Brydeinig ei eisiau o gymharu â beth rydym wedi’i weld hyd yn hyn, lle mae Llafur Cymru wedi cymryd eu llwybr eu hunain?”
Fodd bynnag, dywed ei fod yn beth cadarnhaol nad oes brys i gael arweinydd newydd yn ei le.
“O leiaf mae’r broses yn cael ei rhoi yn ei lle gan Mark Drakeford wedi rhoi digon o amser er mwyn cynnal proses fewnol ystyrlon,” meddai.
“Felly mae’n rhoi cyfle da i’r blaid gael clywed gan yr ymgeiswyr a chael gwell dealltwriaeth o beth yw eu gweledigaeth nhw.
“Dyna’r peth mawr i fi, beth wnawn ni weld o ran eu gweledigaeth nhw, ac i ba raddau mae hyn yn mynd i fod yn wahanol i weledigaeth Mark Drakeford.”