Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r llifogydd yng Nghymru dros y penwythnos, ar ôl i Blaid Cymru fod yn galw am ddatganiad ar lawr y Senedd.
Yn eu datganiad ysgrifenedig, dywed y llywodraeth y bu’n “benwythnos eithriadol o anodd” ledled Cymru yn sgil Storm Bert.
Maen nwh’n dweud bod eu “meddyliau gyda’r rheiny sydd wedi dioddef llifogydd i’w cartrefi a’u busnesau”.
“Nid ddylid byth danbrisio’r trawma a’r pryder mae hyn yn ei achosi,” meddai llefarydd, gan ychwanegu eu bod nhw’n diolch i’r gwasanaethau brys a’r awdurdodau lleol am eu hymateb, ar ôl i Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog, fod yn ymweld ag ardaloedd sydd wedi’u heffeithio.
Mae’r Llywodraeth yn pwysleisio y dylai pobol barhau i “gymryd gofal ychwanegol dros y dyddiau i ddod, a dilyn cyngor swyddogol”.
Maen nhw’n dweud y byddan nhw’n parhau i gefnogi’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio, gan bwysleisio bod amddiffynfeydd rhag llifogydd wedi gwarchod rhai cartrefi a busnesau.
Galw am ymateb brys
Datganiad yn dilyn y llifogydd ⬇️ pic.twitter.com/11SVwCpv8e
— Heledd Fychan AS/ MS 🏴 (@Heledd_Plaid) November 24, 2024
Mae Heledd Fychan, Aelod Plaid Cymru dros Ganol De Cymru – etholaeth sy’n cwmpasu tref Pontypridd sydd wedi cael ei tharo eto – yn awyddus i glywed datganiad ar lawr y Senedd yr wythnos hon.
Mae hi wedi ysgrifennu at y Trefnydd Jane Hutt a Huw Irranca-Davies, sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd.
Yn ôl Heledd Fychan, dydy’r gwersi ddim wedi cael eu dysgu yn dilyn stormydd Ciara, Dennis a Jorge, ac mae hi’n galw am amlinelliad ar fyrder o gynllun cynaliadwy i atal llifogydd.
“Yn drist iawn, mae’r golygfeydd hyn yn llawer rhy gyffredin, a dydy’r rhybuddion bedair blynedd yn ôl ddim wedi cael eu hystyried,” meddai.
“Pan gafodd glaw a llif afonydd eu cofnodi gan dorri record, roedden ni wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus annibynnol, cynnydd mewn cyllid er mwyn atal llifogydd, a chorff unigol i fod yn gyfrifol am lifogydd.
“Yn anffodus, mae’r digwyddiadau y penwythnos hwn yn dangos nad ydy’r gwersi wedi cael eu dysgu, gan adael cymunedau’n wynebu’r tywydd heb fod ganddyn nhw fesurau lliniaru yn eu lle.
“Tra ei bod hi’n briodol canolbwyntio heddiw ar gadw pobol yn ddiogel, mae’n hanfodol bwysig fod y Senedd, yn ystod amser y Llywodraeth, yn cael y cyfle i drafod dull gwirioneddol gynaliadwy o amddiffyn rhag llifogydd ar fyrder.”