Hetiau du, siôl wlanog a ffrogiau yw’r wisg rydym yn dueddol o’i chysylltu â Chymru yn draddodiadol. Ar Fawrth 1, Dydd Gŵyl Dewi, gwelwn lu o fenywod yn gwisgo’r rhain, ond beth yw gwraidd yr arferion yma? Yn syml, adlewyrchiad yw’r wisg Gymreig o’r hyn wisgai menywod yn ardaloedd gwledig Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Felly, beth yn union yw’r rhannau gwahanol o’r wisg draddodiadol?

I ddechrau, mae yna het ‘pot llaeth’. Nid oes unrhyw beth arall tebyg iddi, ac mae hi wedi cael yr enw ‘yr het Gymreig’. Wedyn mae’r siôl, sydd fel arfer wedi’i gwisgo gyda phais, sef math o sgert isaf, ac yna’r ‘betgwn’, sef math o ffrog. Yn ychwanegol i’r elfennau hollbwysig uchod, mae modd ychwanegu ffedog, neu glogyn o wlân.

Fel yr esbonia Dr Michael Freeman, cyn-guradur Amgueddfa Ceredigion, nid oedd un synnwyr ffasiwn penodol ar gyfer ffrogiau ledled Cymru gyfan; yn hytrach, roedd amrywiadau rhanbarthol. Er, nodwedd bwysig y ffrogiau yma oedd eu bod nhw wedi’u creu allan o wlân lleol, gan gefnogi diwydiant tecstilau Cymru.

Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd pryderon bod yr hunaniaeth Gymreig yn gwanhau, a bod yr iaith Gymraeg yn cael ei cholli. Felly, fe wnaeth y syniad o ymgyrchu dros wisg genedlaethol ennyn tipyn o gefnogaeth gan y Cymry er mwyn cryfhau eu hunaniaeth annibynnol, yn enwedig gan ystyried y gefnogaeth fyddai hyn yn ei chreu i’r diwydiant gwlân.

Un o uchafbwyntiau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg o safbwynt datblygiad y wisg Gymreig oedd ymdrechion Augusta Hall, aeres gyfoethog yn Sir Fynwy. Enillodd hi gystadleuaeth yn yr Eisteddfod yn 1834, gyda thraethawd ar fanteision cadw’r wisg Gymreig a’r iaith Gymraeg. Erbyn heddiw, rydym yn aml yn gweld y wisg yn rhan annatod o Eisteddfodau’r genedl.