Dyma eitem sy’n edrych ar rai o hoff lefydd darllenwyr Golwg360. Mae’r eitemau wedi cael eu sgwennu gan ddysgwyr Cymraeg. Y tro yma, Jacinta Jolly sy’n dweud pam ei bod yn hoffi Tyddewi yn Sir Benfro…
Mae Jacinta yn dod o Awstralia yn wreiddiol ond bellach yn byw yn Llanidloes ym Mhowys.
Symudais i Gymru 19 mlynedd yn ôl. Dw i’n caru pob man yng Nghymru, ond fy hoff le ydy Tyddewi, yn Sir Benfro.
Dw i’n caru Tyddewi achos mae’n hardd. Dw i’n hoffi’r traethau, cerdded ar hyd llwybr yr arfordir a gweld byd natur. Dw i’n caru’r adar, y blodau a mamaliaid y môr.
Dw i’n mynd i Dyddewi bob haf gyda fy nheulu. Dyn ni wrth ein boddau yn gwersylla yma ers blynyddoedd lawer.
Mae pawb yn gwybod taw Tyddewi yw’r ddinas leiaf yn y Deyrnas Unedig, ond nid yw pawb yn gwybod bod siop hufen iâ orau Cymru yn Nhyddewi!