Bu Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg ar ymweliad â Taiwan yn ddiweddar. Yma, mae’n pwysleisio pwysigrwydd mynd â’r Gymraeg allan i’r byd, a dysgu gwersi o brofiadau ieithoedd a gwledydd eraill…


Mae gwaith Comisiynydd y Gymraeg, yn naturiol, yn canolbwyntio ar y Gymraeg a Chymru. Mae ein gwaith creiddiol â ffocws clir ar reoleiddio’n effeithiol, ynghyd â hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn ein bywydau bob dydd.

Ond mae gennym rôl arweiniol yn rhyngwladol yn ogystal. Roedd Cymru’n flaenllaw yn sefydlu Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith, ac roedd yn braf croesawu aelodau’r Gymdeithas honno i Gymru yn gynharach eleni i nodi dengmlwyddiant y gymdeithas mewn cynhadledd oedd yn archwilio rôl Comisiynwyr Iaith yn cynyddu defnydd o ieithoedd lleiafrifol a swyddogol. Roedd diddordeb mawr yng ngwaith y Gymdeithas – ac yng Nghymru – ymhlith cymunedau yn Taiwan, a daeth criw ffilmio yn cynrychioli un o’r ieithoedd brodorol yno, sef yr Hakka, draw i gofnodi’r digwyddiad ac i ddysgu mwy am yr hyn rydym yn ei gyflawni i drawsnewid sefyllfa’r Gymraeg.

Arwydd pellach o’r diddordeb hwn oedd y gwahoddiad diweddar gawsom i fynychu a chyfrannu at Uwch Gynhadledd Datblygu Ieithoedd Cenedlaethol Taiwan 2024. Dyma’r ail i’w chynnal yn dilyn pasio Deddf Datblygu Ieithoedd Cenedlaethol Taiwan yn 2019, sydd yn nodi, ymysg pethau eraill, y bydd y llywodraeth yn blaenoriaethu trosglwyddo, adfywio a datblygu’r ieithoedd cenedlaethol.

Cyfle felly i rannu gwybodaeth a hyrwyddo’r gwaith rydym yn ei wneud yma yng nghyd-destun y Gymraeg, a chlywed a deall mwy am y gwaith yn Taiwan o geisio amddiffyn rhai o’u hieithoedd cenedlaethol. Mae nifer o ieithoedd yn cael eu siarad ar ynysoedd Taiwan, gan gynnwys Hokkien, Hakka, ieithoedd brodorol, tafodieithoedd Matsu a Kinmen, a iaith arwyddion Taiwan.

Wedi cyrraedd Taipei a chael noson o gwsg i ddadebru, cawsom ni, westeion y gynhadledd, ein cludo ben bore ar drên cyflym i ochr arall yr ynys (Pintung) i ymweld â Chanolfan Datblygu Diwylliannol y Bobol Gynhenid. Yna, cafwyd taith i’r mynyddoedd, lle cawsom ein diddanu gan gwmni theatr dawns, a chyfle i drio gwisgoedd lliwgar y gymuned. Wedi cinio blasus, cawsom ymweld â Pharc Diwylliannol y gymuned Hakka, lle cawsom ddysgu rhagor am yr iaith honno a’i diwylliant. O ran cyd-destun, dylid nodi, er ei bod yn cael ei hystyried yn ddiwylliant lleiafrifol, mae oddeutu 2.5m o bobol yn siarad yr iaith yn y wlad.

Roedd diwrnod swyddogol cyntaf yr Uwch Gynhadledd yn ddiwrnod llawn o weithgareddau a chyflwyniadau difyr, gan gynnwys araith gan yr Athro Joe Lo Bianco o Brifysgol Melbourne ar bolisi a chynllunio ieithyddol, gan ddwyn o’i brofiad yn gweithio â llywodraethau mewn gwledydd fel Myanmar a Sri Lanca yn dylunio a gweithredu polisïau iaith.

Ar yr ail ddiwrnod clywsom am y gwaith ardderchog mae llywodraeth leol y wlad a’r system addysg yn ei wneud i hyrwyddo’r ieithoedd cenedlaethol ers dyfodiad y Ddeddf Ieithoedd Cenedlaethol gafodd ei grybwyll ynghynt.

Cyflwyno gwaith y Comisiynydd

Daeth cyfle wedyn i fi roi cyflwyniad ar ein gwaith ni fel Comisiynydd y Gymraeg a’r gwaith ehangach sydd yn cael ei wneud yma yng Nghymru i hyrwyddo’r defnydd o’r iaith. Bûm yn aelod o Banel gydag academyddion a chyfarwyddwyr eraill oedd yn gweithredu ar draws ynysoedd Taiwan ac yn cynrychioli gwahanol gymunedau ieithyddol. Gwnaeth y drafodaeth banel honno amlygu rhai o’r tensiynau sydd yn bodoli wrth i Lywodraeth Taiwan fynd i’r afael â hyrwyddo’r amryw ieithoedd cenedlaethol sydd ganddyn nhw, gan sicrhau bod pob iaith a chymuned yn cael chwarae teg.

Hawliau dynol Taiwan

Yn dilyn y gynhadledd, cafwyd taith yn ôl i Taipei ac ymweliad â’r Weinyddiaeth Ddiwylliant i gyfarfod â’r Dirprwy Weinidog am drafodaeth bellach. Roedd cyfle yma eto i mi sôn ychydig yn fwy am y gwaith o sefydlu swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a sut rydym yn cydweithio ag asiantaethau perthnasol eraill yng Nghymru i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg.

Un o brofiadau mwyaf dirdynnol y daith oedd ymweliad ag Amgueddfa Hawliau Dynol Taiwan, amgueddfa sydd wedi ei lleoli ar y safle lle roedd carcharorion gwleidyddol yn cael eu cadw a’u harteithio. Cawsom ein tywys o amgylch yr amgueddfa gan ŵr o Malaysia ddaeth i Taiwan yn ddeunaw oed i astudio yn 1967. Yn ystod ei gyfnod yn astudio yno, cafodd ei lusgo o’i dŷ a’i garcharu yn Taipei gan lywodraeth y KMT am flwyddyn a hanner, cyn ei drosglwyddo i leoliad arall lle buodd am ddeuddeng mlynedd pellach. Roedd ei glywed yn adrodd ei hanes personol yn yr union fan lle profodd y fath artaith yn brofiad dirdynnol na fyddaf fyth yn ei anghofio.

Braf yw nodi bod awydd cryf yno i ddysgu mwy o wersi o’r gwaith sydd yn digwydd yma yng Nghymru, ac mae’n bwysig ein bod ni yn parhau i gyfrannu at drafodaethau ar lefel ryngwladol, gan ganiatáu i gymunedau ieithyddol eraill ddysgu o’n profiad helaeth yma, a sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei gweld fel iaith fyw, hyderus a pherthnasol i’r dyfodol.