Mae Melin Drafod yn galw ar arweinwyr y pleidiau gwleidyddol yng Nghymru i fabwysiadu cynllun i fynd i’r afael â thwf yr asgell dde eithafol.
Mewn gohebiaeth, maen nhw’n gofyn nifer o gwestiynau, gyda’r bwriad o gryfhau democratiaeth a mynd i’r afael ag anghyfiawnder economaidd a chymdeithasol.
Roedd gan UKIP, Plaid Brexit a Reform bresenoldeb yn y Senedd rhwng 2016 a 2021, ac mae arolygon barn yn awgrymu y gallai Reform ennill seddi yn y Senedd yn etholiadau 2026.
Mae pleidiau asgell dde wedi dod yn fwyfwy poblogaidd mewn gwledydd megis yr Eidal, Awstria, yr Unol Daleithiau a’r Iseldiroedd hefyd.
Uwchgynhadledd
Bydd Melin Drafod yn cynnal uwchgynhadledd yng Nghanolfan Soar ym Merthyr Tudful ar Chwefror 8.
“Mewn nifer o wledydd yn Ewrop a thu hwnt, nid oes amheuaeth bod democratiaeth fel yr ydym yn ei hadnabod hi dan fygythiad yn fwy nag ers cenedlaethau,” meddai Talat Chaudhri, cadeirydd Melin Drafod.
“Mae angen i’n pleidiau gwleidyddol a’n cymdeithas sifil sefyll i fyny i wynebu’r bygythiad enfawr hwn.
“Bydd rhai yn ystyried yr hyn sy’n digwydd yma yng Nghymru yn amherthnasol – ond dydyn ni ddim yn cytuno.
“Mae pob cam, boed yn fach neu’n fawr, yn gallu gwneud gwahanaeth.
“Mae pob dim yn werth ei wneud o ystyried difrifoldeb y sefyllfa.
“Felly mae dyletswydd foesol ar ein cynrychiolwyr a’n pleidiau i ymateb.
“Dyma’r amser i ddyfnhau a chryfhau strwythurau democrataidd ein gwlad, rhai mewnol y pleidiau ynghyd â’n cyfundrefnau etholiadol.
“Ond, yn ogystal, mae’n gwbl hanfodol i fynd i’r afael â’r anghyfartaledd incwm difrifol yng Nghymru a mewn llefydd eraill yn y byd.
“Dim ond drwy weithio ar bob lefel y llwyddwn ni daclo’r pleidiau adain dde eithafol a’u hideoleg hyll sy’n bygwth cynifer o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.
“Yn y Gymru annibynnol, bydd cyfle gennym ni greu amgylchfyd llawer iawn mwy agored a chroesawgar i fudwyr.
“Mae herio’r naratif gwrth-fewnfudo atgas bresennol nid yn unig y polisi moesol cywir, ond y peth gorau i’n heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus.”