Dyma rhan o’r araith roddodd cyn-Aelod Seneddol Llafur Cwm Cynon, a cholofnydd newydd golwg360, yn y digwyddiad ‘Cardiff Transformed’ am fygythiad y dde eithafol yng Nghymru…


Rhaid edrych ar realiti’r sefyllfa yn gyntaf, ac yna gofyn y cwestiwn, ‘beth sydd i’w wneud?’.

Ar hyn o bryd, plaid wleidyddol Reform yw’r drydedd blaid fwyaf yng Nghymru o ran ei phleidlais. Yn yr etholiad cyffredinol yn 2024, cawson nhw 17% o’r bleidlais.

Daeth Reform yn ail mewn 13 o etholaethau, gan gynnwys yr etholaeth lle dw i’n byw, sef Merthyr Tudful ac Aberdâr. Roedden nhw wedi lansio eu manifesto ar Ystad y Gurnos ym Merthyr Tudful. Ac yn hanesyddol, ac fel rhan o’n diwylliant ni yma yng Nghymru, dyma’r ardaloedd sydd wedi bod wrth wraidd brwydrau gwleidyddol y dosbarth gweithiol.

Ar yr un pryd, rhaid cofio bod y nifer oedd wedi troi allan i bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol yn isel ar draws Cymru, yn enwedig yng nghymoedd y de – o dan 50% mewn sawl etholaeth, o Flaenau Gwent i Ferthyr Tudful ac Aberdâr.

Ydy hyn yn golygu bod y bobol sy’n pleidleisio dros Reform yn cytuno â’u polisïau? Mae’r sefyllfa yn fwy cymleth na hynny yn fy marn i. Mae pobol yn edrych am ateb, ac yn edrych am rywun i’w feio am y sefyllfa yn y wlad ar ôl 14 o flynyddoedd o lymder, costau byw yn codi ac yn y blaen. Ac maen nhw wedi colli ymddiriedaeth yng ngwleidyddion y prif bleidiau.

Mae Farage yn sôn am ennill seddi yn etholiad y Senedd yn 2026, a dywedodd Dr Jac Larner o Brifysgol Caerdydd, sy’n arbenigwr ar bleidleisio, y dylai Reform fod yn “hyderus iawn” o ennill “rhywle rhwng 14 ac 17” o seddi’r Senedd yn yr etholiad nesaf.

Wrth edrych ar hyn ac ar faniffesto Plaid Reform, sy’n gwrthwynebu polisïau i leihau effaith newid hinsawdd, yn gwrthwynebu mewnfudo mewn gwlad sy’n anelu at fod yn Genedl Noddfa, ac sydd ag arweinwyr sydd wedi dilyn syniadau hiliol a gwrth-undebol a gwrth-ddosbarth gweithiol, dylen ni fod yn bryderus iawn.

Felly, rhaid i ni wynebu syniadau fel hyn, gyda neges o obaith am ddyfodol gwahanol a ffordd arall o redeg ein gwleidyddiaeth, ein cymunedau, a’n heconomi.

Mae’n glir bod Cymru wedi dioddef dros y canrifoedd yn sgil economi sydd wedi tynnu’n cyfoeth oddi wrthym, sydd wedi gweld cyfalafwyr yn elwa ar gefn ein gweithwyr. Mae’n hen bryd ein bod ni nawr yn rhoi gobaith i bobol Cymru ac yn ymladd yn ôl yn erbyn y dde eithafol yma a phlaid Reform, drwy roi polisïau ymlaen ac edrych am atebion sy’n newid ein cymdeithas – nid tincian ar yr ymylon. Polisïau lle rydyn ni’n sicrhau bod y cyfoeth sy’n cael ei greu yma yng Nghymru yn aros yma – yn nwylo’r bobol a’r cymunedau sy’n creu’r cyfoeth yna.

Dylai perchnogaeth gyhoeddus o’r gweithfeydd dur ym Mhort Talbot fod ar y bwrdd gwleidyddol. Paham na allwn ni fod yn creu ac yn berchen ar y ffermydd gwynt yn ein cymunedau? Paham nad ydyn ni yng Nghymru yn berchen ar Ystad y Goron? Ble mae ein cyfran o arian HS2? Ble mae’r arian sy’n ddyledus i ni i wneud y tomenni glo yn ddiogel? A beth am gael gwared ar Fformiwla Barnett, ac ariannu Cymru’n deg, yn ôl yr angen?

Yn anffodus, hyd yn hyn, dydyn ni ddim yn gweld y math o bolisïau gan y Llywodraeth Lafur yn Llundain – nac yng Nghaerdydd – fyddai’n gwrthwynebu syniadau a pholisïau Reform. Yn wir, maen nhw’n gallu manteisio ar rai o weithredoedd y llywodraeth bresennol sy’n symud y wlad i mewn i amser o lymder unwaith eto. Dydyn nhw ddim yn sefydlu polisïau sy’n helpu’r tlodion – yn blant nac yn hen bobol. Yn wir, maen nhw’n gwneud y gwrthwyneb! Ac mae’r busnes o dderbyn arian a rhoddion wedi ychwanegu at ddiffyg ymddiriedaeth pobol mewn gwleidyddion.

Mae gen i obaith, ond mae angen i ni gydweithio i newid y sefyllfa. Mae’n rhaid i ni weithio yn ein cymunedau, yn y mudiadau gwirfoddol lleol, siarad â phobol yn y dafarn neu’r caffi, ateb eu cwestiynau a dweud y gwir wrthyn nhw. Ddiwedd mis Hydref (y 26ain), bydd yna gyfarfod yng Nghapel Soar ym Merthyr i edrych ar y ffordd ymlaen, sut allwn ni gydweithio i ddechrau newid ein sefyllfa a dechrau adeiladu mudiad sydd dros pobol, dros heddwch a thros y blaned, ac nid er elw. Nid plaid newydd, ond mudiad a chynghrair sy’n gwrthwynebu llymder, sy’n cryfhau ein cymunedau, ac sy’n dweud “Ie” i Gymru dosturiol, gynhwysol a goddefgar.

Mae gennym fwy yn gyffredin na’r hyn sy’n ein rhannu.