Mae arweinydd newydd Cyngor Ynys Môn yn dweud bod y syniad o ymestyn Uwch Gynghrair Cymru’n “un da”, er mwyn osgoi gweld gormod o’r un gemau’n cael eu chwarae dro ar ôl tro.
Mae Gary Pritchard, sydd hefyd yn sylwebydd pêl-droed, wedi bod yn siarad â golwg360 am y cyhoeddiad bod y Cymru Premier yn cynyddu o’r deuddeg tîm presennol i gystadleuaeth 16 tîm o dymor 2026/27 ymlaen.
Yn rhan o’r cynnig newydd ar gyfer yr Uwch Gynghrair, bydd y timau ar y brig yn chwarae yn erbyn ei gilydd eto er mwyn ceisio ennill y gynghrair, y timau yn y canol yn anelu am le yn Ewrop, a’r timau tua’r gwaelod yn herio’i gilydd eto i aros yn yr Uwch Gynghrair.
“Mae cynefindra yn magu dirmyg, felly mae’r syniad o ymestyn y gynghrair yn un da,” meddai.
Er hyn, dywed nad ydy o eto wedi’i ddarbwyllo bod y gemau ychwanegol ar ddiwedd y tymor yn angenrheidiol, “ond o leiaf maen nhw’n trio gwneud rhywbeth gwahanol”.
Maen nhw hefyd yn cynnig gemau ail gyfle i benderfynu pwy fydd yn aros i fyny.
“Be fydd yn ddifyr gweld ydi sut mae’r bwlch yma rhwng yr Uwch Gynghrair a Chynghrair y Gogledd a’r De yn cael ei bontio o ganlyniad i’r newidiadau,” meddai Gary Pritchard wedyn.
“Oherwydd mae’r bwlch yna yn un anferthol.
“Cafodd Airbus y perfformiad gwaethaf erioed y tymor diwethaf, ond rŵan maen nhw ar y brig o bell ffordd yng Nghynghrair y Gogledd.”
Ond “mae pobol yn rhy sydyn i feirniadu Uwch Gynghrair Cymru”, meddai.
“Fel rhywun ddaru weithio ar yr Uwch Gynghrair am flynyddoedd efo Sgorio, mae rhywun yn ymwybodol o’r ffaeleddau; does yna ddim cuddio hynny.
“A dyna pam mae’r Gymdeithas Bêl-droed yn gwneud newidiadau i’r system yn y ddwy flynedd nesaf yma.
“Ond mae’r safon wedi gwella yn aruthrol dros y degawdau diwethaf, a lot mwy nag mae pobol eisiau rhoi cydnabyddiaeth iddo fo.”
Angerdd i greu “Cynghrair Gymreig” ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf
Tra ei fod yn cefnogi’r cynlluniau ar gyfer Uwch Gynghrair Cymru, dywed Gary Pritchard ei bod hi’n “anoddach” cefnogi’r cynlluniau sydd wedi’u hadrodd yn y wasg fyddai’n galluogi Abertawe, Caerdydd, Casnewydd, Merthyr a Wrecsam i chwarae yng Nghwpan Cymru.
Un sydd wedi croesawu’r awgrym yw Phil Parkinson, rheolwr Wrecsam.
Ond dywed Gary Pritchard y byddai’r sefyllfa wedi bod yn haws pe bai Cynghrair Gymreig wedi cael ei sefydlu ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf.
“Fel cenedlaetholwr, mae’n siŵr y dylwn i fod eisiau’r timau i gyd yn Uwch Gynghrair Cymru,” meddai.
“Ond mae yna ryw ddeuoliaeth yma, ’does, achos dydy Wrecsam er enghraifft erioed wedi chwarae yng Nghymru.
“Ond basa chdi efo peiriant amser, yr un peth bysa chdi’n licio gwneud ydi mynd yn ôl mewn amser i’r adeg yna, pan oedd clybiau Cymru ar eu hanterth ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf, a chreu Cynghrair Cymreig.
“Dwi ddim yn meddwl basa chdi’n cael y torfeydd o 40,000-50,000 oherwydd dydy’r boblogaeth ddim yma.
“Ond fysa hi’n gynghrair fysa’n denu’r un fath o gefnogaeth ag mae clybiau hanesyddol fel Bohemian a Shamrock Rovers yn gallu’u denu. Does yna ddim dwywaith am hynny.”