Mae Joe Allen wedi’i enwi yng ngharfan bêl-droed Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn Gwlad yr Iâ a Montenegro yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Daw hyn er i’r chwaraewr canol cae 34 oed ymddeol o bêl-droed ryngwladol fis Chwefror y llynedd.
Pan ddaeth ei yrfa i ben, roedd e wedi cynrychioli ei wlad yn yr Ewros ddwywaith (yn 2016 a 2020) a Chwpan y Byd yn 2022.
Mae e wedi ennill 74 o gapiau dros Gymru.
Daw’r tro pedol yn sgil anafiadau i Ethan Ampadu a’r capten Aaron Ramsey, ac fe ddywedodd pan gyhoeddodd ei fod yn ymddeol y byddai’n ystyried dychwelyd pe bai’n derbyn yr alwad.
Mae Rhys Norrington-Davies yn y garfan am y tro cyntaf ers dros ddwy flynedd hefyd, tra bod David Brooks, Wes Burns a Nathan Broadhead hefyd wedi gwella o anafiadau.
Ond does dim lle i Dan James na Rabbi Matondo oherwydd anafiadau, na chwaith i Joe Morrell, sydd heb glwb ers gadael Portsmouth dros yr haf.
Bydd Cymru’n herio Gwlad yr Iâ oddi cartref ar Hydref 11, cyn croesawu Montenegro i Stadiwm Dinas Caerdydd ar Hydref 14.
Gorffennodd eu gêm agoriadol yn erbyn Twrci’n gyfartal ddi-sgôr fis diwethaf, cyn iddyn nhw guro Montenegro dridiau’n ddiweddarach.
Carfan Cymru: Danny Ward, Adam Davies, Karl Darlow, Rhys Norrington-Davies, Ben Davies, Owen Beck, Joe Rodon, Chris Mepham, Ben Cabango, Neco Williams, Connor Roberts, Jordan James, Joe Allen, Josh Sheehan, Wes Burns, Ollie Cooper, Sorba Thomas, David Brooks, Nathan Broadhead, Lewis Koumas, Brennan Johnson, Harry Wilson, Mark Harris, Liam Cullen, Kieffer Moore.