Mae Vicki Sutton, Prif Weithredwr Pêl-rwyd Cymru, wedi cyhoeddi y bydd hi’n camu o’r neilltu ar ôl tair blynedd yn y swydd.
Bydd hi hefyd yn rhoi’r gorau i’r un swydd gyda Dreigiau Caerdydd ar ddiwedd y flwyddyn.
Yn ôl Pêl-rwyd Cymru, mae hi wedi arwain “twf, arloesedd a llwyddiant sylweddol” y corff ers 2020.
Ymhlith ei llwyddiannau, meddai Pêl-rwyd Cymru, mae creu strategaeth i gynhyrchu incwm i’r gamp yng Nghymru, lleihau’r ddibyniaeth ar ffynonellau arian sy’n gyfyng, gwahanu Pêl-rwyd Cymru a Dreigiau Caerdydd fel eu bod yn endidau ar wahân, a thyfu maint staff Pêl-rwyd Cymru o chwech i bymtheg ar ôl cyfnod Covid-19.
Dywed y bu’n “bleser arwain y busnesau drwy’r cyfnod hwn o drawsnewid”, a bod ganddi “lawer o atgofion melys” o’i chyfnod wrth y llyw.
“Pêl-rwyd yw’r gamp orau yn y byd, yn fy marn i, a’r un sydd â’r potensial mwyaf i dyfu’n fwy fyth yn y dyfodol,” meddai.
“Mae’n gyfnod cyffrous iawn i’r ddau fusnes, a dw i’n edrych ymlaen at wylio a chefnogi cam nesa’r twf o bell.”
Mae cadeiryddion Dreigiau Caerdydd a Phêl-rwyd Cymru wedi diolch iddi am fod yn “hynod gynhyrchiol” yn y swydd.
Bydd y broses o benodi ei holynydd yn dechrau’n fuan, medd Pêl-rwyd Cymru.