Colin Ingram gafodd ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn Clwb Criced Morgannwg ac Orielwyr San Helen neithiwr (nos Lun, Medi 30), wrth i’r Orielwyr gynnal eu cinio blynyddol olaf yng ngwesty’r Towers yn Jersey Marine ger Abertawe.

Wrth sgorio cyfanswm o 2,001 o rediadau eleni, fe gyrhaeddodd y chwaraewr tramor 39 oed y garreg filltir o 1,000 yn y nifer lleiaf erioed o fatiadau (13) i’r sir.

Ac mae e hefyd wedi cyrraedd rhestr fer Chwaraewr y Flwyddyn Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol (PCA), gyda’r enillydd yn cael ei gyhoeddi heno (nos Fawrth, Hydref 1).

Mae golwg360 yn deall ei fod e ar fin llofnodi cytundeb newydd gyda Morgannwg.

Aeth gwobrau Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn Morgannwg a’r Orielwyr i’r troellwr ifanc Ben Kellaway, sydd wedi rhyfeddu torfeydd y tymor hwn gyda’i allu i fowlio â’i ddwy law.

Cipiodd Andy Gorvin Wobr Gerry Munday am y chwaraewr sydd wedi gwella fwyaf, gyda Gwobr David Evans am gyfraniad unigol arbennig i Sam Northeast am ei 335 heb fod allan yn erbyn Middlesex yn Lord’s – y sgôr gorau erioed ar y cae hanesyddol yn Llundain.

Roedd gwobrau cydnabyddiaeth hefyd i:

  • Mason Crane am fod y troellwr coes cyntaf ers Robin Hobbs yn 1981 i gipio pum wiced mewn batiad i Forgannwg;
  • Colin Ingram a Kiran Carlson am eu partneriaeth o 314 yn erbyn Sussex, sef y bartneriaeth bumed wiced fwyaf yn hanes gemau dosbarth cyntaf y sir;
  • Kiran Carlson a Will Smale am eu partneriaeth o 169 yn erbyn Gwlad yr Haf yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast;
  • tîm Morgannwg am eu cyfanswm o 592 yn erbyn Swydd Gaerloyw yn Cheltenham, wrth iddyn nhw ddod o fewn un rhediad i’r sgôr mwyaf erioed ym mhedwaredd batiad gêm dosbarth cyntaf;
  • Roger Skyrme, gofalwr yr ystafell newid am 25 mlynedd o wasanaeth i’r clwb

Derbyniodd Kiran Carlson dlws Chwaraewr y Flwyddyn 2023 ar ôl bod yn absennol o’r cinio y llynedd, a derbyniodd pob chwaraewr lun o’r tîm yn dathlu eu buddugoliaeth yng Nghwpan Undydd Metro Bank, ar ôl curo Gwlad yr Haf wythnos a hanner yn ôl.

Roedd y noson hefyd yn gyfle i ddathlu 52 o flynyddoedd o wasanaeth gan John Williams, cadeirydd diflino Orielwyr San Helen, sy’n dal i drefnu teithiau i gemau oddi cartref Morgannwg, ac a weithiodd mor galed i sicrhau dyfodol criced yn Abertawe a gorllewin Cymru.

Ond gyda datblygu San Helen yn stadiwm rygbi bwrpasol at y dyfodol, mae’n debygol mai yng Nghastell-nedd ac nid yn Abertawe y bydd gemau’n cael eu cynnal yn y dyfodol.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth yw cynlluniau Cyngor Abertawe ar gyfer y murlun ar Heol Ystumllwynarth sy’n dangos Alan Jones a’r diweddar Don Shepherd, yn ogystal â darlunio nifer o fuddugoliaethau hanesyddol tîm rygbi Abertawe dros Awstralia, De Affrica a Seland Newydd.

Mae golwg360 yn deall fod treftadaeth yn cael ei thrafod yn barhaus â rhanddeiliaid, ond nad oes penderfyniad ar hyn o bryd am leoliad y murlun yn y dyfodol.

Chwaraewr bytholwyrdd

“Mae’n anodd ei briodoli i un peth,” meddai Colin Ingram wrth golwg360, wrth drafod ei lwyddiant yn ystod tymor 2024.

“Yn sicr, wrth ddod i mewn i’r tymor hwn, doeddwn i ddim yn gwybod ai eleni fyddai fy mlwyddyn olaf, felly dw i wedi trio mwynhau pob eiliad a gwneud y mwyaf ohoni.

“Aeth y blynyddoedd diwethaf yn dda i fi pan dw i wedi chwarae, a dw i’n falch o fod yn rhydd o anafiadau a chael treulio cymaint o amser allan yn y canol.

“Unwaith aeth pethau’n dda ar ddechrau’r tymor hwn, fe wnes i drio cadw at fformiwla oedd yn gweithio, ac roedd hi’n flwyddyn eithaf arbennig yn y pen draw.”

Angen “mwy o gysondeb” yn y Bencampwriaeth

Er gwaetha’i 1,351 o rediadau yn y Bencampwriaeth, gorffennodd Morgannwg yn chweched yn yr ail adran y tymor hwn.

“Wnaethon ni ddim ennill cynifer o gemau ag y bydden ni wedi hoffi, ond o’m rhan i, wrth edrych ar y garfan, mae’n debyg fod gennym ni garfan fwy dwfn a chyflawn erbyn hyn.

“Daeth Grant [Bradburn, y prif hyfforddwr] i mewn ac mae e wedi newid sawl meddylfryd, ac fe fydd hynny’n cymryd rhywfaint o amser i ni ganfod ein traed.

“Dw i’n sicr yn credu, wrth symud ymlaen, y byddwn ni’n fwy cyson, a dydy’r fformiwla i ennill ddim yn bell i ffwrdd.

“Fe welson ni gip ar hynny eleni, a dw i’n dal yn bositif iawn wrth fynd i mewn i’r flwyddyn nesaf o ran y camau rydyn ni wedi’u cymryd.”

Colli’u ffordd mewn gemau ugain pelawd

Yn yr un modd, gorffennodd Morgannwg yn chweched yn eu grŵp yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast.

Dechreuon nhw’n gryf, cyn colli eu ffordd tuag at ddiwedd y gystadleuaeth a cholli allan ar y rowndiau terfynol.

“Roedd e’n ddigon tebyg i’r gemau pedwar diwrnod,” meddai Ingram.

“Fe gawson ni sawl gêm dynn lle gwnaethon ni orffen gyda’r canlyniad anghywir, ond mae’r brand [o griced] rydyn ni’n ei chwarae nawr yn galonogol, mae sawl chwaraewr ifanc yn codi’u dwylo, ac mae sawl un yn dechrau darganfod eu traed yn y fformat.

“Roedden ni’n agos ati eleni, a gobeithio y gallwn ni adeiladu go iawn ar gyfer y flwyddyn nesaf.

“Dw i’n meddwl bod y brand o griced chwaraeon ni wedi gwella dipyn ac yn agosach o lawer ati.

“Mae Grŵp y De yn anodd iawn, fe welson ni bedwar tîm o’r grŵp ar Ddiwrnod y Ffeinals, felly rydyn ni’n gwybod fod rhaid i ni godi’n gêm a pharhau i symud ymlaen.

“Dw i’n credu ein bod ni wedi cymryd camau breision ac y gwelwn ni fudd o hynny wrth fynd yn ein blaenau.”

Cwpan 50 pelawd yn dod adref i Gymru

Does dim amheuaeth mai ennill Cwpan Undydd Metro Bank, tlws y gystadleuaeth 50 pelawd, oedd uchafbwynt y tymor i Forgannwg.

Dyma’r eildro mewn pedwar tymor iddyn nhw ennill y gystadleuaeth hon, a chwaraeodd Colin Ingram ran allweddol yn y llwyddiant.

“Daethon ni allan o’r ymgyrch yn y Vitality Blast wedi dysgu nifer o wersi ar ôl colli sawl gêm agos, a phan ddaeth hi i’r gwpan undydd, roedd y garfan yn debyg iawn ac fe ddechreuon ni ennill nifer o gemau agos, oedd yn galonogol iawn,” meddai wedyn.

“Ar y cyfan, mae gennym ni sawl chwaraewr sydd ag enw da mewn gemau 50 pelawd ac oherwydd ein bod ni mewn grŵp tebyg i’r Blast, roedd y cyfuniadau’n iawn ac fe ddechreuon ni ennill rhai o’r gemau mawr a chipio sawl buddugoliaeth fawr.

“Roedd hi’n dipyn o hwyl cael ennill y tlws, a dw i’n sicr yn teimlo’i fod e’n adlewyrchiad da o’r camau breision roedden ni wedi’u cymryd yn y fformatiau eraill hefyd.”

Edrych tua’r dyfodol

Byddai rhywun yn disgwyl i chwaraewr 39 oed fod yn edrych tua’r dyfodol tu hwnt i’r cae chwarae.

Ond mae Colin Ingram yn edrych ymlaen at y posibilrwydd o gael chwarae yng nghystadleuaeth SA20, sef cystadleuaeth ugain pelawd ddomestig De Affrica, lle cafodd ei eni.

“Dw i heb dargedu llawer mwy na hynny, ac wedyn y paratoadau ar gyfer y tymor nesaf a mynd yn syth i mewn i’r tymor,” meddai.

“Dw i ddim eisiau bod yn rhy brysur, ac â finnau’n 39 oed, dw i ddim eisiau gormod o bethau ar fy mhlât.

“Ond gobeithio y bydd SA20 yn pontio’r bwlch rhwng y tymhorau, ac y bydda i’n ysu i gael bwrw iddi yma tymor nesaf.

“Dw i am gymryd un tymor ar y tro.

“Roeddwn i’n credu mai eleni fyddai fy nhymor olaf.

“Fe wnes i ddysgu tipyn amdanaf fi’n bersonol a fy nghorff, a’r hyn sydd angen i fi ei wneud yn wahanol i gadw fy hun ar y cae eleni.

“Felly un tymor ar y tro fydd hi, ond gobeithio am o leiaf ddwy flynedd arall.”