Fydd Ethan Ampadu ddim yn chwarae yng ngweddill gemau Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd, ar ôl iddo fe anafu ei benglin.

Mae disgwyl i gapten Leeds fod allan tan fis Ionawr ar ôl cael ei anafu wrth chwarae yn erbyn Coventry yn y Bencampwriaeth.

Bu’n rhaid iddo fe adael y cae ar ôl 41 munud o’r gêm.

Roedd disgwyl iddo fe fod yn y garfan i herio Gwlad yr Iâ a Montenegro, fydd yn cael ei chyhoeddi gan y rheolwr Craig Bellamy ddydd Mercher (Tachwedd 2).

Er gwaetha’r anaf, does dim disgwyl y bydd yn rhaid iddo fe gael llawdriniaeth, fyddai’n ei gadw allan yn hirach eto.