Mae cynlluniau Clwb Pêl-droed Wrecsam i greu cyfleuster hyfforddi ar gyfer eu hacademi wedi cael eu cyflwyno’n ffurfiol.

Cyhoeddodd y clwb, sydd dan berchnogaeth sêr Hollywood, fis Gorffennaf eleni eu bod nhw wedi llofnodi sail cytundeb ar gyfer y datblygiad gwerth miliynau o bunnoedd ar safle Ysgol Uwchradd Darland yn yr Orsedd.

Mae cais cynllunio bellach wedi cael ei gyflwyno i Gyngor Wrecsam, yn gofyn am ganiatâd i godi pum cae a dau adeilad ger yr ysgol i gefnogi system ieuenctid y tîm sy’n chwarae yn yr Adran Gyntaf.

Pe baen nhw’n cael eu cymeradwyo, bydd y cynigion yn arwain at godi ystafelloedd newid, swyddfeydd, ystafelloedd cyfarfod, ystafell feddygol, campfa ac ystafell ddosbarth newydd, ynghyd â chynwysyddion i’w defnyddio gan dirmon.

Statws

Roedd y cynlluniau’n rhan hanfodol o roi’r hawl i Wrecsam gael statws academi Categori Tri gan Gynghrair Bêl-droed Lloegr yn gynharach eleni, er mwyn i’r clwb gael cyflwyno timau o bob oedran, o’r tîm dan naw oed i fyny.

Daeth hyn yn dilyn pryderon yn wreiddiol y byddai’n rhaid i’r clwb pêl-droed aros ar lefel Categori Pedwar o ganlyniad i ddiffyg cyfleuster academi penodedig, ac felly fydden nhw ddim ond yn gallu gweithredu ar lefel dan 17 a throsodd.

Ond cafodd statws Categori Tri ei gadarnhau’n ddiweddarach, ar ôl i Gwmni Archwilio Academïau’r Gêm Broffesiynol roi mwy o amser i wella’r isadeiledd i’r safon sy’n ofynnol.

Datganiad cynllunio

Mewn datganiad cynllunio, dywedodd asiantiaid ar ran y clwb:

“Mae cyflwyno cyfleuster hyfforddi newydd i’r Academi yn Ysgol Uwchradd Darland yn cael ei ystyried yn rhan allweddol o ennill statws i’r clwb fel Academi Categori Tri Cynghrair Bêl-droed Lloegr o dymor 2024-25, yn dilyn asesiad archwilio llwyddiannus.

“Bydd y cyfleuster hyfforddi’n cael ei ddefnyddio gan dimau academi Clwb Pêl-droed Wrecsam, o naw i ddeunaw oed.

“Bydd adeiladau arfaethedig yr academi’n hwyluso datblygiad ac addysg athletwyr ifainc ar y cae ac oddi arno.

“Mae’r datganiad hwn wedi nodi manteision sylweddol i’r clwb a’r gymuned ehangach o ganlyniad i’r datblygiad arfaethedig.

“Gofynnir yn barchus, felly, bod y cynigion yn cael eu hargymell i’w cymeradwyo, a bod caniatâd cynllunio’n cael ei roi.”

 

Cafodd y clwb statws Categori Tri ym mis Gorffennaf, a hynny am gyfnod cychwynnol o ddeuddeg mis, gyda disgwyliad bod adolygiad pellach i ddilyn.

Pe bai’n llwyddiannus, mae disgwyl i Wrecsam gael trwydded dair blynedd i barhau i ddatblygu eu system ieuenctid.

Eisoes, mae’r cyd-gadeiryddion Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi tynnu sylw at bwysigrwydd dod â chwaraewyr ifainc drwodd er mwyn gwella cynaliadwyedd y clwb.

“Llongyfarchiadau i bawb fu ynghlwm wrth helpu i sefydlu’r academi sydd wedi’i thrwyddedu gan Gynghrair Bêl-droed Lloegr, gan ein galluogi ni i wireddu ein huchelgeisiau wrth i ni barhau i geisio meithrin talent ifanc ledled gogledd Cymru,” meddai Michael Williamson, Prif Weithredwr Clwb Pêl-droed Wrecsam ym mis Gorffennaf.

“Mae’r cyd-gadeiryddion wedi amlinellu eu huchelgais i greu clwb pêl-droed cynaliadwy, ac mae’r buddsoddiad yng nghyfleusterau hyfforddi’r academi, ochr yn ochr â sicrhau Categori Tri, yn sicr yn garreg filltir tuag at y nod.”

Bydd penderfyniad ynghylch y cais cynllunio’n cael ei wneud gan yr awdurdod lleol maes o law.